Fel Goruchwyliwr/ Uwch Weithiwr Gofal Cartref, byddwch yn darparu gofal a chymorth i oedolion yn eu cartref eu hunain.
Byddwch yn gweithio mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ac yn hyrwyddo dewisiadau, annibyniaeth ac urddas pobl, ac yn eu helpu i wneud y pethau sy'n bwysig iddynt. Byddwch hefyd yn meithrin perthynas waith dda â theuluoedd a gofalwyr.
Bydd y gofal a'r cymorth rydych yn eu darparu yn amrywio fesul unigolyn, a bydd hyn wedi'i nodi yn eu cynllun gofal. Gall hyn gynnwys cymorth gyda thasgau o amgylch y tŷ, gofal personol, ymolchi a gwisgo. Byddwch hefyd yn cefnogi lles pobl drwy eu hannog i gadw mewn cysylltiad â'u ffrindiau, eu teulu a'u cymuned.
Byddwch yn helpu'r tîm rheoli i wneud yn siŵr bod y gwaith dydd i ddydd yn rhedeg mor ddidrafferth â phosib. Mae'n bosib y bydd gofyn i chi arwain a goruchwylio tîm o weithwyr gofal cartref.
I fod yn llwyddiannus yn y swydd hon mae angen:
- Brwdfrydedd dros weithio gyda phobl
- Sgiliau cyfathrebu da
- Cydymdeimlad a thosturi
- Y gallu i feithrin perthnasoedd dibynadwy
- Y gallu i fod yn aelod da o dîm
- Sgiliau trefnu da
- Hyblygrwydd
- Y gallu i gadw cofnodion cywir
- Cadernid
- Cymhelliant a phenderfyniad
- Y gallu i addasu i sefyllfaoedd heriol a di-ddal
- Agwedd agored a chynhwysol
- Y gallu i gyfeirio aelodau eraill o'r tîm
Am fwy o wybodaeth am y cymwysterau ar gyfer y rôl hon gweler Gofal Cymdeithasol Cymru.