Ymarferydd Cynorthwyol
Fel Ymarferydd Cynorthwyol, byddwch yn gweithio o dan oruchwyliaeth i ddarparu gofal i blant.
Gan weithio fel rhan o dîm, byddwch yn helpu i greu amgylchedd diogel, croesawgar a chynhwysol i blant, er mwyn cefnogi eu gofal, chwarae, dysgu a datblygiad.
I fod yn llwyddiannus yn y swydd hon mae angen:
- Natur ofalgar ac amyneddgar
- Sgiliau cyfathrebu da, gan gynnwys sgiliau llafar a gwrando
- Dychymyg a chreadigrwydd
- Y gallu i gynnwys pob plentyn
- Y gallu i dderbyn cyfarwyddyd gan aelodau staff eraill
- Hyder yng nghwmni plant ac oedolion
Am fwy o wybodaeth am y cymwysterau ar gyfer y rôl hon gweler Gofal Cymdeithasol Cymru.
Swyddi gwag mewn gofal
Mae Cymru angen mwy o weithiwyr gofal cymdeithasol.
Mae llawer o bobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol wedi neidio o swyddi fel lletygarwch neu fanwerthu. Defnyddiwch eich sgiliau trosglwyddadwy a gwnewch gais nawr.