Ymarferydd
Fel Ymarferydd byddwch yn gyfrifol am ddarparu gofal dydd i blant.
Gan weithio fel rhan o dîm byddwch yn helpu i greu amgylchedd diogel, croesawgar a chynhwysol i blant, er mwyn cefnogi eu gofal, chwarae, dysgu a datblygiad. Byddwch yn arsylwi ar ddatblygiad plant ac yn ei gofnodi, ac yn cynllunio gweithgareddau i gefnogi eu dysgu a'u datblygiad parhaus.
I fod yn llwyddiannus yn y swydd hon mae angen:
- Natur ofalgar ac amyneddgar
- Sgiliau cyfathrebu da, gan gynnwys sgiliau llafar a gwrando
- Dychymyg a chreadigrwydd
- Y gallu i addasu i sefyllfaoedd sy'n newid
- Y gallu i gynnwys pob plentyn
- Y gallu i dderbyn cyfarwyddyd gan yr Uwch Ymarferydd/Rheolwr
- Hyder yng nghwmni plant ac oedolion
- Y gallu i roi cyfarwyddyd i Ymarferwyr Cynorthwyol
Am fwy o wybodaeth am y cymwysterau ar gyfer y rôl hon gweler Gofal Cymdeithasol Cymru.
Swyddi gwag mewn gofal
Mae Cymru angen mwy o weithiwyr gofal cymdeithasol.
Mae llawer o bobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol wedi neidio o swyddi fel lletygarwch neu fanwerthu. Defnyddiwch eich sgiliau trosglwyddadwy a gwnewch gais nawr.