fbpx
Skip to main content
Cymhorthydd Gofal Dydd Denbighshire County Council
Location: Denbighshire
£10.98 per hour / Rhan Amser

Cyfeirnod y swydd: AHSS00045W3CWE
Lleoliad: Cysgod y Gaer, Corwen
Cyflog: Graddfa 3, £10.98 – £11.18 yr awr
Oriau: 27.5 awr yr wythnos
Parhaol

Nod Cysgod y Gaer yw darparu gofal preswyl, seibiant a dydd o ansawdd uchel a gaiff ei arwain gan anghenion i gefnogi pobl hŷn ardal Corwen a’u gofalwyr.

Mae swydd wedi dod yn wag ar gyfer Cymhorthydd Gofal Dydd yng Nghanolfan Breswyl Cysgod y Gaer. Os ydych chi’n credu y gallwch gynnig yr agwedd ofalgar a hyblyg sydd ei hangen fel y gall y sefydliad, lle mae anghenion y cleientiaid yn hollbwysig, weithredu’n ddidrafferth yna fe hoffem glywed gennych.

Bydd y penodiad yn amodol ar wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a geirdaon boddhaol.

Os hoffech drafod unrhyw agwedd o’r swydd, ffoniwch Catherine Roberts (Rheolwr) neu Elizabeth Hopson (Rheolwr Cynorthwyol) ar 01490 412394.

Os oes gennych ddiddordeb yn y swydd hon, gwnewch gais ar-lein drwy’r wefan https://www.denbighshire.gov.uk Am ddulliau eraill o wneud cais cysylltwch â’r Gwasanaethau Cwsmeriaid ar 01824 706101.

Rhaid i ymgeiswyr lenwi ein ffurflen gais er mwyn cael eu hystyried. Yn anffodus ni allwn ateb pob cais. Os nad ydych chi wedi derbyn ateb o fewn tair wythnos i’r dyddiad cau, fe ddylech chi gymryd yn ganiataol nad ydych wedi cyrraedd y rhestr fer am gyfweliad.

Rydym hefo’r hawl i gau’r swydd hon yn gynnar os rydym yn derbyn digon o geisiadau am y rôl. Felly, os oes gennych ddiddordeb, gyrrwch eich cais mor gynnar â phosibl.


I gysylltu â'r cyflogwr, defnyddiwch y cyfeiriad e-bost canlynol: [javascript protected email address]