Lleoliad: Gwynedd
Dros dro Mae’n hanfodol eich bod yn gwneud cais drwy wefan Cyngor Gwynedd.
Pwrpas y swydd yma yw i ail asesu sefyllfa’r teulu: Os yw’r plentyn wedi cael ei leoli gyda’i rieni am flwyddyn neu fwy, bydd angen ystyried os yw’r lleoliad yn mynd yn dda, os yw’r rhieni yn cydweithio a gweithio mewn partneriaeth gyda’r adran, os yw’r plentyn yn dal i barhau o fod yn debygol o ddioddef niwed arwyddocaol, ac a ddylai cais gael ei wneud i’r llys i amrwyio neu ddiddymu’r gorchymun llys.
I weithio gyda phlant a’u teuluoedd yn unol a’r Ddeddf Plant 1989, Canllawiau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan a Fframwaith Asesu Plant Mewn Angen a’u teuluoedd, a Deddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant (Cymru) 2014.