fbpx
Skip to main content
Gweithiwr Cymdeithasol – Gwasanaethau Plant Denbighshire County Council
Location: Denbighshire
Llawn Amser

Lleoliad: Y Rhyl / Gweithio Hybrid
Cyflog: Graddfa 8 – 9 £32,020 – £38,296 y flwyddyn (Bydd y cyflog a bennir ar ôl penodi’r ymgeisydd llwyddiannus yn unol â’i gymwysterau a phrofiad)
Oriau: 37 y wythnos
Parhaol

Mae’r Gwasanaeth Plant a Theuluoedd wedi ymrwymo i wella cyfleoedd bywyd plant, pobl ifanc a theuluoedd mwyaf diamddiffyn Sir Ddinbych a, ble bynnag bosibl, galluogi plant, pobl ifanc a theuluoedd i fyw’n ddiogel yn eu cymunedau.

Ein nod yw sicrhau’r cydbwysedd cywir o staff, adnoddau a gwasanaethau er mwyn darparu profiadau cadarnhaol, diwallu anghenion yn effeithlon a hyrwyddo canlyniadau cadarnhaol ar gyfer plant, pobl ifanc a’u teuluoedd rŵan ac yn y dyfodol.

Mae gweithio mewn partneriaeth â theuluoedd, asiantaethau partner a mudiadau cymunedol yn ein galluogi i ddarparu gwasanaethau mewn fforddgyfannol a chydlynol sy’n diwallu anghenion plant, pobl ifanc a theuluoedd yn effeithiol.

Ni fu erioed amser gwell i ymuno â’r tîm yma yn Sir Ddinbych. Mae gennym nifer o gyfleoedd cyffrous i’r ymgeiswyr cywir ymuno â ni i gyflawni amcanion ein gwasanaeth.

Byddwch yn rhan o dîm sy’n gweithio’n dda gyda’i gilydd ac sy’n cefnogi ei gilydd. Byddwch yn manteisio ar fuddion staff drwy’r cynllun gwobrwyo yn ychwanegol at weithio hyblyg i’ch galluogi i gael cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith. Byddwn yn darparu goruchwyliaeth fyfyriol ynghyd â chymorth rheolwyr, cyfleoedd hyfforddiant rhagorol a rhaglen DPP sefydledig.

Mae ein siwrnai heriol yn siapio dyfodol Gwasanaethau Plant, ac rydym yn anelu at fod y gorau. Dewch i ymuno â ni i gymryd yr her ac i chwarae rôl allweddol mewn amgylchedd hynod gefnogol i wella gwasanaethau i blant a phobl ifanc yn Sir Ddinbych.


I gysylltu â'r cyflogwr, defnyddiwch y cyfeiriad e-bost canlynol: [javascript protected email address]