Skip to main content
Gweithiwr/wraig Cefnogol Gofal a Chefnogaeth Antur Waunfawr
Lleoliad: Waunfawr/Caernarfon/Penygroes

Byddwch yn aelod allweddol o dîm sy’n sicrhau bod y gwasanaethau yn ymateb i ofynion amrywiol yr unigolion a’r teuluoedd/gofalwyr. Mae’n hanfodol i’r holl ymgeiswyr fod yn awyddus i weithio efo pobl ag anabledd dysgu mewn rôl sy’n galluogi’r unigolyn i fyw bywyd i’w llawn botensial. Bydd deilydd y swyddi yn cefnogi’r unigolion sy’n derbyn y gwasanaeth i ddatblygu eu sgiliau byw, gwaith, hamdden a chymdeithasol. Mae’r Antur yn gefnogol iawn i ddatblygu staff, ac yn sicrhau Hyfforddiant cynhwysfawr o safon, a chefnogaeth o fewn y swydd gan Reolwr profiadol.


Mewngofnodwch i wneud cais am y swydd hon