Lleoliad: Ardal Arfon a Dwyfor
££9.82 yr awr - £9.81 Ydych chi eisiau gweithio yn y gymuned?
Ydych chi eisiau gwaith sydd yn cynnig her a boddhad wrth gefnogi pobl fregus yn eu cartrefi?
Rydym yn chwilio am Weithwyr Cefnogol i Asiantaeth Gofal Cartref Cyngor Gwynedd i weithio yn ardal Arfon a Dwyfor.
Gallwn gynnig oriau, gydag amodau gwaith a thal ffafriol ynghyd a chostau trafeilio.
Fel aelod o staff Asiantaeth Gofal Cartref Cyngor Gwynedd, byddwch yn cael cyfle i wella eich sgiliau a derbyn y wybodaeth ddiweddaraf am y maes gofal drwy ddilyn cynllun hyfforddiant cynhwysfawr. Bydd cyfle i chi ennill cymhwyster proffesiynol.