Lleoliad: Gwynedd
Mae’n hanfodol eich bod yn gwneud cais trwy wefan Cyngor Gwynedd.
Cynorthwyo unigolion gyda anabledd dysgu i fyw eu bywydau yn y ffordd maent yn dymuno, i sicrhau bod ganddynt fywydau gweithgar a chyfoethog.
Canolbwyntio ar ‘y person’ er mwyn creu, datblygu a chynnal ansawdd bywyd da.
Er mwyn bod yn llwyddiannus yn y brentisiaeth hon, rydym yn chwilio am unigolyn sy’n barod i ddysgu a datblygu eu sgiliau wrth weithio. Rydym hefyd yn chwilio am unigolyn sy’n gallu cyfathrebu gyda hyder, gweithio’n rhan o dîm, a dangos eu potensial i lwyddo fel prentis.