fbpx
Skip to main content

Dechrau’n Deg


Mae Dechrau’n Deg yn cefnogi teuluoedd â phlant o dan bedair oed sy'n aml yn byw yn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru. Fe welwch ragor o wybodaeth am yr hyn maen nhw'n ei wneud a chyngor ar sut i ddod o hyd i swydd yn y rhaglen Dechrau’n Deg ar y dudalen hon.

 

Beth yw Dechrau’n Deg?

Nod y rhaglen hon gan Lywodraeth Cymru yw rhoi'r dechrau gorau posibl mewn bywyd (dechrau teg) i bob plentyn yng Nghymru.

Mae Dechrau’n Deg yn darparu gofal plant rhan-amser o ansawdd i blant 2-3 oed. Mae'r rhaglen yn cefnogi plant i ddysgu siarad a chyfathrebu ac mae'n cynnig gwasanaeth Ymwelydd Iechyd gwell. Rhoddir cefnogaeth hefyd i rieni, lle cynigir awgrymiadau a strategaethau ar reoli ymddygiad, a thrin a thrafod teimladau a pherthnasoedd.

I ddysgu mwy am raglenni penodol Dechrau’n Deg yn eich ardal chi, cysylltwch â'ch Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd lleol.

Mae'n ofynnol i leoliadau gofal plant Dechrau’n Deg yng Nghymru fodloni'r safonau a nodwyd ac a orfodir gan Arolygiaeth Gofal Cymru.

 

Dod o hyd i swydd gyda Dechrau’n Deg

Os ydych chi'n barod i ddod o hyd i'ch swydd nesaf ar unwaith, gallwch chi ddechrau yma trwy chwilio trwy'r swyddi gwag a restrir ar ein gwefan.

Mae gweithio mewn lleoliadau gofal plant Dechrau’n Deg yn ddewis gwych i unrhyw un sydd â diddordeb mewn datblygiad plant trwy chwarae a dysgu. Rydym ni wedi gwneud fideo i danlinellu pa mor bwysig yw rôl y gweithwyr hyn yn helpu plant i gyrraedd eu potensial.

Gall gweithio yn y blynyddoedd cynnar fod yn yrfa hir sy’n rhoi llawer o foddhad. Fe welwch rolau swydd o ymarferydd cynorthwyol, i ymarferydd uwch a'r holl ffordd i fyny i reolwr yn y maes hwn. Mae Jane yn rhoi darlun gwych inni o’r yrfa 33 mlynedd y mae wedi’i gael yn gweithio gyda’r blynyddoedd cynnar, lle mae'n pwysleisio pa mor arbennig a gwerth chweil yw’r gwaith. Gallwch wylio fideo Jane yma

Os ydych chi am gymryd eich cam cyntaf i weithio yn y blynyddoedd cynnar, mae gan y Gymdeithas Broffesiynol ar gyfer Gofal Plant a Blynyddoedd Cynnar (PACEY) ganllaw gwych ar sut i ddechrau. Gallwch ei ddarllen ar wefan PACEY.

Mae Blynyddoedd Cynnar Cymru yn darparu cefnogaeth ac arweiniad ar eu gwefan i aelodau ac i unigolion sydd â diddordeb yn y sector gofal plant, yn gyflogedig neu'n gwirfoddoli:

Mae Mudiad Meithrin hefyd yn cynnig cefnogaeth ar gyfer hyfforddi ar eu gwefan:

Rydym hefyd yn argymell eich bod yn gwylio fideo Ahmed Gofal yn Galw: Gyrfa i chi? i ddarganfod sut brofiad yw darparu gofal i blant 2-3 oed.

Logo Gofal yn Galw

Swyddi gwag mewn gofal

Mae Cymru angen mwy o weithiwyr gofal cymdeithasol.

Mae llawer o bobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol wedi neidio o swyddi fel lletygarwch neu fanwerthu. Defnyddiwch eich sgiliau trosglwyddadwy a gwnewch gais nawr.

Search for jobs