fbpx
Skip to main content

Cartrefi Preswyl i blant


Mae gan gartrefi preswyl i blant neu gartrefi plant rôl bwysig yn y gymdeithas yng Nghymru. Isod, rydym ni’n nodi beth yn union mae cartrefi plant yn ei wneud. Hefyd rydym yn egluro sut brofiad yw gweithio mewn cartref preswyl i blant a sut i ddod o hyd i swydd.

 

Beth yw Cartref Preswyl i Blant?

Mae cartref preswyl i blant yn lle i blant fyw os nad oes modd iddyn nhw fod gartref gyda’u teuluoedd eu hunain. Maen nhw’n gofalu am blant a phobl ifanc o lawer o gefndiroedd gwahanol a fydd yn aml wedi cael profiadau bywyd heriol.

 

Pwy sy’n rheoleiddio Cartrefi Preswyl i Blant?

Mae cartrefi preswyl i blant yn cael eu rheoleiddio gan Arolygiaeth Gofal Cymru o dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 a ddaeth i rym ar 2 Ebrill, 2018. Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Arolygiaeth Gofal Cymru.

Mae’r holl reolwyr a gweithwyr mewn cartrefi preswyl i blant yn cael eu cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru. Gallwch wneud cais i gofrestru neu chwilio’r gofrestr ar-lein ar wefan Gofal Cymdeithasol Cymru.

 

Gweithio mewn Cartref Preswyl i Blant

Os hoffech chwilio am swyddi gwag sy’n agos at eich cartref, mae’r cyfleoedd diweddaraf ar gael ar borth swyddi Gofalwn Cymru.

Mae nifer o swyddi ar gael mewn cartrefi preswyl i blant, yn cynnwys gweithiwr gofal preswyl i blant ac ym maes rheoli. Pa un a ydych chi newydd gychwyn arni neu â phrofiad a chymhwyster yn barod, mae swyddi ar gael ym maes gofal.

Nid yw gweithio mewn cartref preswyl i blant yn addas i bawb, ond gall fod yn waith gwerth chweil i’r person cywir. Os hoffech ddysgu rhagor am yr heriau a’r mwynhad o weithio mewn cartref preswyl i blant, gall Peter eich goleuo trwy ddisgrifio’r berthynas mae’n ei chreu gyda’r plant, ond hefyd y pwysau sy’n rhan o’r gwaith yn ogystal.

Roles within Cartrefi Preswyl i blant

Gweithiwr Gofal Preswyl i Blant


Fel Gweithiwr Gofal Preswyl i Blant, byddwch yn cefnogi plant a phobl ifanc, a darparu gofal sy’n canolbwyntio ar y person.

About this role

Uwch Weithiwr Gofal Preswyl i Blant


Fel Uwch Weithiwr Gofal Preswyl i Blant, byddwch yn cefnogi’r plant a’r bobl ifanc, ac yn darparu gofal sy’n canolbwyntio ar y plentyn.

About this role

Dirprwy Reolwr Gofal Preswyl i Blant


Fel Dirprwy Reolwr Gofal Preswyl i Blant, bydd gennych wybodaeth drylwyr o’r cynllun gofal ar gyfer y plant a phobl ifanc sy’n byw yn y cartref.

About this role

Rheolwr Gofal Preswyl i Blant


Fel Rheolwr Gofal Preswyl i Blant, byddwch yn pennu cyfeiriad gweithredol y cartref a threfnu ei fod yn gweithredu’n effeithiol.

About this role

Swyddi gwag mewn gofal

Mae Cymru angen mwy o weithiwyr gofal cymdeithasol.

Mae llawer o bobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol wedi neidio o swyddi fel lletygarwch neu fanwerthu. Defnyddiwch eich sgiliau trosglwyddadwy a gwnewch gais nawr.

Search for jobs