Gofal Cartref – Plant
Mae gofal cartref yn hanfodol i blant a phobl ifanc ledled Cymru. Ond beth yn union yw gofal cartref a pham ei fod mor bwysig? Rydym yn egluro beth mae gofal cartref yn ei olygu ac yn rhoi cyngor ar sut i ddod o hyd i ddarparwr sy’n agos at eich cartref chi. Byddwch hefyd yn dysgu rhywfaint am y gwaith o ddarparu cefnogaeth gartref i blant a phobl ifanc, ac mae yna rai dolenni i'ch helpu i ddod o hyd i swyddi gofal cartref.
Beth yw Gofal Cartref?
Gelwir gofal cartref yn domiciliary care neu home care yn Saesneg. Mae'r gwasanaethau hyn yn darparu gofal a chefnogaeth hanfodol i blant a phobl ifanc sy'n byw gartref. Mae'r gefnogaeth hon yn cael ei chynllunio o gwmpas anghenion ac arferion plant a phobl ifanc i'w helpu i aros yn eu cartref mewn ffordd ddiogel gyda chefnogaeth.
Bydd gofalwr cartref yn darparu gwasanaethau amrywiol i'r plant a'r bobl ifanc y maent yn gofalu amdanynt. Yr unigolyn, ei anghenion ef ac anghenion y teulu/ gofalwyr a'r hyn sy'n bwysig iddyn nhw ddylai lywio’r ddarpariaeth. Gall y gefnogaeth hon gynnwys galluogi plant a phobl ifanc i gymryd rhan mewn gweithgareddau fel gwneud eu hunain yn barod i fynd i’r ysgol neu fynd ar wibdeithiau, meithrin cyfeillgarwch, cyfathrebu, chwarae a chael ansawdd bywyd da. Mae modd darparu rhai gwasanaethau gofal iechyd yn y cartref, lle bo hynny'n briodol.
Mae helpu plant a phobl ifanc i gynnal cysylltiadau â'u cymunedau yn un o’r agweddau pwysicaf ar y gwasanaeth hwn. Mae gofal cartref yn galluogi plant a phobl ifanc i barhau i wneud y pethau sydd bwysicaf iddyn nhw gan barhau i gadw cysylltiad â'u ffrindiau a'u teuluoedd.
Dod o hyd i wasanaethau Gofal Cartref
Mae gwasanaethau gofal cartref yn darparu staff proffesiynol a chymwys i gynnal ymweliadau cartref ledled Cymru. Mae'r gwasanaethau hyn yn addas ar gyfer pob math o blant a phobl ifanc, fel plant a phobl ifanc â salwch difrifol, plant a phobl ifanc sy'n gwella ar ôl cael llawdriniaeth, neu blant a phobl ifanc ag anghenion ychwanegol.
Os nad ydych yn siŵr ble i ddechrau chwilio am y darparwr cywir, gall ein cronfa ddata o ddarparwyr gwasanaeth gofal cartref ledled Cymru fod o gymorth. Gallwch hidlo'r canlyniadau i ddod o hyd i wasanaethau yn eich ardal chi a dysgu mwy amdanynt ar eu gwefannau.
Pwy sy'n rheoleiddio gwasanaethau Gofal Cartref?
Mae darparwyr gwasanaeth gofal cartref yn cael eu rheoleiddio yng Nghymru gan Arolygiaeth Gofal Cymru o dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 a ddaeth i rym ar Ebrill 2, 2018. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Arolygiaeth Gofal Cymru.
Mae'r holl reolwyr a gweithwyr sy'n darparu Gwasanaethau Gofal Cartref wedi'u cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru. Gallwch wneud cais i gofrestru neu i chwilio'r gofrestr ar-lein ar wefan Gofal Cymdeithasol Cymru.
Gweithio ym maes Gofal Cartref
Os ydych chi'n barod i chwilio am swyddi gwag gyda darparwyr gwasanaeth gofal cartref sy’n agos at eich cartref, mae gan borth swyddi Gofalwn Cymru y cyfleoedd diweddaraf.
Mae nifer o swyddi ar gael ym maes gwasanaethau gofal cartref, yn amrywio o weithwyr cymorth gofal cartref, i gydlynwyr gwasanaethau a rheolwyr. Mae’r swyddi amrywiol sydd ar gael yn addas ar gyfer pobl sy'n awyddus i ennill profiad, yn ogystal â phobl sydd eisoes â phrofiad a chymwysterau
Gall gweithio ym maes gwasanaethau gofal cartref fod yn heriol. Gall hefyd fod yn amrywiol, yn werth chweil ac yn hyblyg.
Rolau mewn Gofal Cartref – Plant
Swyddi gwag mewn gofal
Mae Cymru angen mwy o weithiwyr gofal cymdeithasol.
Mae llawer o bobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol wedi neidio o swyddi fel lletygarwch neu fanwerthu. Defnyddiwch eich sgiliau trosglwyddadwy a gwnewch gais nawr.