fbpx
Skip to main content

Gofal Plant yn y Cartref


Gofal plant yn y cartref yw lle mae plant yn derbyn gofal mewn amgylchedd cartref. Gallai hyn fod yn eu cartref eu hunain gyda nani, er enghraifft, neu yng nghartref eu gwarchodwr plant. Mae mwy o wybodaeth am yr hyn maen nhw’n ei wneud, a chyngor ar sut i ddod o hyd i swydd fel nani neu warchodwr plant, ar gael ar y dudalen hon.

 

Beth yw Gofal Plant yn y Cartref?

Gofal plant yn y cartref yw pan fydd rhieni yn dewis i’w plant gael gofal mewn amgylchedd cartref, naill ai yng nghartref gwarchodwr plant neu dderbyn gofal gan nani yn eu cartref eu hunain.

Mae nanis yn darparu gofal i un neu fwy o blant mewn cartref teuluol ac fe’u cyflogir drwy gontract personol gyda rhieni. Maen nhw’n gallu byw i mewn neu allan o’r cartref, yn dibynnu ar anghenion y teulu.

Mae gwarchodwyr plant yn hunangyflogedig ac wedi’u cofrestru i ddarparu gofal plant i blant dan 12 oed am fwy na dwy awr y dydd, yng nghartref y gwarchodwr plant.

 

Pwy sy’n rheoleiddio Gofal Plant yn y Cartref?

Rhaid i warchodwyr plant fod wedi’u cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru a gall nanis gofrestru ar gynllun cymeradwyo gwirfoddol. Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan Arolygiaeth Gofal Cymru.

 

Dod o hyd i swyddi Gofal Plant yn y Cartref

Mae gweithio fel gwarchodwr plant neu nani yn ddewis gwych i unrhyw un sy’n frwd ynghylch datblygiad plant drwy chwarae a dysgu. Dyma Amanda, a newidiodd yrfa o swydd dan bwysau mawr mewn swyddfa i weithio fel gwarchodwr plant er mwyn cyfuno gwaith a bywyd teuluol, i roi cipolwg i ni ar ei rôl.

Gall gweithio yn y blynyddoedd cynnar fod yn yrfa hir a buddiol. Mae’r maes hwn yn cynnig swyddi sy’n cynnwys gwaith fel nani a gofalwr maeth i waith fel rheolwr. Mae Gaynor yn rhoi cipolwg gwych i ni am ei gyrfa 30 mlynedd mewn gwarchod plant, lle mae'n pwysleisio pa mor arbennig a gwerth chweil y mae'n teimlo. Gallwch wylio fideo Gaynor yma.

Os ydych yn bwriadu cymryd eich cam cyntaf tuag at weithio yn y blynyddoedd cynnar, mae arweiniad gwych ar sut i ddechrau arni ar gael gan y Gymdeithas Broffesiynol ar gyfer Gofal Plant a’r Blynyddoedd Cynnar (PACEY).

Roles within Gofal Plant yn y Cartref

Gwarchodwr Plant


Fel Gwarchodwr Plant cofrestredig, byddwch yn darparu gofal ar gyfer plant dan 12 oed am fwy na dwy awr y dydd yn eich cartref eich hun.

About this role

Nani


Fel Nani, byddwch yn gofalu am un neu fwo o blant mewn cartref teuluol fel gwasanaeth.

About this role

Swyddi gwag mewn gofal

Mae Cymru angen mwy o weithiwyr gofal cymdeithasol.

Mae llawer o bobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol wedi neidio o swyddi fel lletygarwch neu fanwerthu. Defnyddiwch eich sgiliau trosglwyddadwy a gwnewch gais nawr.

Search for jobs