Neidio i'r prif gynnwys
Newyddion Cyflogwyr

10 Mehefin 2022

Log my care

Mae Log my Care wedi cyhoeddi system cynllunio gofal electronig newydd i helpu gyda’r pwysau ar y sector gofal.

Eu nod yw sicrhau bod technoleg sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn yn hygyrch i bawb ym maes gofal cymdeithasol drwy gael gwared ar yr angen am gofnodion papur, gan arbed arian a gwella darpariaeth gofal o ansawdd. Mae Log my Care yn casglu safbwyntiau i helpu darparwyr gofal i ddyrannu adnoddau a chyflymu tasgau o ddydd i ddydd fel y gallant ganolbwyntio ar y bobl sy’n derbyn eu cymorth.

Gellir defnyddio’r Cynllun Dechrau Arni am ddim – mae’n rhoi mynediad at yr adnoddau angenrheidiol i fynd yn ddigidol i bob darparwr gofal. Gyda’r weledigaeth o newid gofal o fod yn ymatebol i fod yn rhagfynegol, mae Log my Care yn trawsnewid gofal i bobl mwyaf bregus cymdeithas.

Wedi’i lunio law yn llaw â gweithwyr cymorth a defnyddwyr gwasanaethau, Log my Care yw’r platfform ar gyfer cyfoethogi bywydau pawb mewn gofal.

Maent yn cefnogi:

  • sefydliadau gofal cartref
  • sefydliadau anabledd dysgu
  • cartrefi nyrsio
  • sefydliadau gofal preswyl
  • sefydliadau byw â chymorth
  • gwasanaethau eraill

Gallant eich helpu i:

  • gael amser yn ôl
  • arbed arian
  • darparu gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn
  • llunio adroddiadau yn hawdd
  • cadw’ch data yn ddiogel

Sut mae’n gweithio

Mae Log my Care yn rhoi’r dechnoleg i ddarparwyr gofal ddarparu gofal rhagorol, drwy:

Dangosfwrdd ar-lein ar gyfer rheolwyr

Y Swyddfa Gofal yw eich canolfan reoli sy’n rhoi trosolwg amser real i chi o’r hyn sy’n digwydd yn eich gwasanaeth, ble bynnag ydych chi. O fan hyn, gallwch ychwanegu aelodau tîm a chleientiaid, neilltuo tasgau, cyrchu adroddiadau, lanlwytho dogfennau a mwy.

Ap ar gyfer gofalwyr a gweithwyr cymorth

Mae’r Ap Gofalwyr yn galluogi’ch tîm i gofnodi’r gofal y maen nhw’n ei ddarparu wrth iddynt fynd a dod. Gallant gyrchu rhestrau pethau i’w gwneud personol sy’n cynnwys tasgau rydych chi’n eu rhoi iddynt, creu logiau, gweld trosglwyddiadau, gweld gwybodaeth bwysig am gleientiaid a mwy.

Mae eu holl nodweddion wedi’u llunio law yn llaw â gweithwyr cymorth i wella’r profiad gofal i bawb dan sylw, o ddarpariaeth gofal ac effeithlonrwydd gofal i roi diweddariadau i deuluoedd a ffrindiau.

Sut mae dechrau arni

  1. Cofrestrwch eich gwasanaeth
  2. Bydd eich cyfrif yn barod o fewn hanner awr (dyddiau’r wythnos yn unig)
  3. Unwaith y byddwch wedi cael eich cyfrinair, gallwch ddechrau defnyddio’r Swyddfa Gofal, i ychwanegu defnyddwyr gwasanaethau ac aelodau tîm.
  4. Pob hwyl arni!

Platfformau’r cyfryngau cymdeithasol

Mwy o erthyglau newyddion

Dewch o hyd i swydd mewn gofal plant

Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein bwrdd swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.