Neidio i'r prif gynnwys
Cyffredinol

13 Rhagfyr 2019

Mae angen mwy o ddynion i weithio mewn gofal cymdeithasol yng Nghymru

Yng Nghymru, mae yna anghydbwysedd sylweddol rhwng y rhywiau yn y gweithlu gofal cymdeithasol, sy’n golygu nad yw rhai pobl yn cael y gofal a’r gefnogaeth iawn i fodloni eu hanghenion.

Mae William Betters, sy’n 49 oed, yn un o lond llaw o ddynion sydd wedi bod yn gweithio mewn gofal yn ei gymuned dros y pum mlynedd ddiwethaf. Mae’n uchel ei gloch ynghylch y rôl mae’n ei chwarae yn ei gymuned yn Sir y Fflint, yn gofalu am bobl hŷn a bregus. Mae eisiau chwalu’r ystrydeb fod swyddi gofal i fenywod yn unig drwy annog mwy o ddynion i ddod yn weithwyr gofal yn ei ardal.

Dywedodd: “Mae’n gamsyniad cyffredin fod gwaith gofal yn fwy addas i fenywod. Mae pobl yn meddwl eu bod nhw, fel rhyw, yn fwy caredig a gofalgar. Dwi eisiau chwalu’r ystrydeb hon. Mae yna ddynion caredig, dyfal a gofalgar allan yna a fyddai’n gwneud gweithwyr gofal gwych ond sydd o bosib heb ystyried gweithio yn y sector.

“Dwi am eu hannog i roi cynnig ar ofalu. Mae wedi bod yn llwybr gyrfaol hynod o werth chweil i fi. Mae pob diwrnod yn wahanol a dwi’n gweithio gydag unigolion hyfryd ac wedi gwneud ffrindiau oes gyda’n defnyddwyr gwasanaeth.

“Drwy gael gofalwyr gwrywaidd ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth gwrywaidd, ry’ ni hefyd yn helpu i atal rhai rhag teimlo’n unig iawn. Mae unigrwydd yn epidemig tawel ymysg dynion yng ngwledydd Prydain, gyda mwy nag un o bob tri yn teimlo’n unig o leiaf unwaith yr wythnos.”

Yng Nghaerdydd, mae Christine Davies hefyd yn galw ar fwy o ddynion i ystyried gweithio mewn gofal cymdeithasol i fod yn fodelau rôl gwrywaidd i ddynion a bechgyn y mae angen cymorth arnynt, fe ei mab Thomas sydd ag anawsterau dysgu ac awtistiaeth.

Ers cael ei ddiarddel o leoliad preswyl pan oedd yn 18 oed, mae Thomas wedi bod yn gweithio gyda’i ddau weithiwr cymorth, Dan a Ricky, sy’n cynnig y cymorth corfforol ac emosiynol sydd ei angen arno.

Dywedodd Ricky, sy’n 34: “Mae’n hanfodol bod gan Thomas ddynion ar ei dîm oherwydd agweddau yn ymwneud ag urddas a’r newidiadau mae’n eu profi.

“Dwi ddim yn credu bod pobl yn deall pa mor amrywiol y gall gweithio mewn gofal cymdeithasol fod. Ry’ chi’n gallu dod â’ch diddordebau personol i mewn i’ch gwaith a rhannu eich sgiliau gyda’r bobl ry’ chi’n eu cefnogi hefyd.”

Mae gan Dan a Ricky ddiddordebau tebyg i Thomas o ran ffitrwydd a cherddoriaeth ac maent yn cael effaith gadarnhaol ar ei ffordd o fyw drwy helpu i fagu ei hyder, ei ysgogiad a’i sgiliau cyfathrebu.

Dywedodd Christine: “Dwi wedi gweld newid rhyfeddol yn Thomas ers iddo ddechrau gweithio gyda’i weithwyr cymorth. Mae ei ysgogiad wedi gwella, ac mae’n fwy brwdfrydig a hyderus o lawer.

“Mae Thomas bob amser wedi mwynhau rhedeg ac mae’n dwlu ar fynd i’r gampfa. Roedd wedi mynd i’w gragen braidd, felly roedd hi’n hanfodol i’w weithwyr cymorth ddeall pa mor bwysig mae ei hobïau iddo.”

Dywedodd Thomas: “Mae hi’n bwysig iawn i fi gael gweithwyr cymorth gwrywaidd. Maen nhw fel brodyr mawr i fi.”

I gael rhagor o wybodaeth am y rolau sydd ar gael a chyflogwyr lleol yn y sectorau gofal cymdeithasol, blynyddoedd cynnar a gofal plant yng Nghymru, ewch i www.Gofalwn.Cymru.

Mwy o erthyglau newyddion

Dewch o hyd i swydd mewn gofal plant

Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein bwrdd swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.