Mudiad Meithrin i gyflwyno Cymraeg i blant Teithwyr, Sipsiwn a Roma
Mae Mudiad Meithrin wedi derbyn grant gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i ddechrau darpariaeth Ti a Fi ar safleoedd Teithwyr, Sipsiwn a Roma yn ne-ddwyrain Cymru.
A hithau’n fis Teithwyr, Sipsiwn a Roma, bydd y cynllun arloesol hwn yn helpu i hyrwyddo a chryfhau perthynas y gymuned â’r Gymraeg yng Nghymru, trwy gyflwyno’r iaith i’r plant ieuengaf a’u gofalwyr.
Mae mis Mehefin yn fis Teithwyr, Sipsiwn a Roma bob blwyddyn, sef mis i rannu hanes, diwylliant ac iaith y cymunedau hyn ac i ddathlu’r cyfoeth maen nhw’n ei gynnig i fywydau bob dydd pobl ar draws y wlad. Drwy godi ymwybyddiaeth, mae’n helpu i fynd i’r afael â rhagfarnau, herio mythau a chodi eu lleisiau yn y gymdeithas ehangach.
Bydd y prosiect hwn yn gam cyntaf tuag at dorri muriau at addysg Gymraeg, yn ogystal ag annog ailadeiladu darpariaethau blynyddoedd cynnar ar safleoedd yn dilyn COVID-19.
Wrth groesawu’r grant, dywedodd Leanne Marsh, Pennaeth Datblygu Gwasanaethau Mudiad Meithrin:
“Rydym yn hynod falch o’r cyfle i ddechrau gweithio gyda chymunedau Teithwyr, Sipsiwn a Roma, ynghyd â derbyn arweiniad gan fudiad Travelling Ahead, a diolchwn am y croeso cynnes. Rydym am barhau i sicrhau bod plant a’u teuluoedd o bob cymuned yng Nghymru yn dod i fwynhau chwarae a dysgu trwy’r Gymraeg a hynny trwy gylchoedd Ti a Fi.”
“Gobeithiwn, o ganlyniad i gefnogaeth y Loteri Genedlaethol a grant Pawb a’i Le, mai megis cychwyn ar y daith o bontio rhwng cymunedau lleiafrifol a’r Mudiad yw hwn, gan brofi bod y Gymraeg yn perthyn i bawb.”
Mae Vikki Alexander, Swyddog Ti a Fi Teithiol Safleoedd Teithwyr, Sipsiwn a Roma, eisoes wedi dechrau cynnal sesiynau ar safle ym Merthyr Tudful, ac mae cynlluniau ar y gweill i gynnal rhai ar safleoedd eraill yn y de-ddwyrain yn y dyfodol.
Eglurodd Vikki sut mae hi’n mynd ati i gyflwyno’r Gymraeg yn y sesiynau:
“Rwyf am ddod â thraddodiadau’r Sipswn a’r Roma a’r Gymraeg at ei gilydd i greu sesiynau Ti a Fi sy’n gynhwysol ac yn ysbrydoli’r plant a’u teuluoedd i ddysgu’r Gymraeg. Dwi’n defnyddio cerddoriaeth, dawnsio a stori i ddod â’r iaith yn fyw i’r plant a’u gofalwyr, ac mae Daisy’r ceffyl wrth law i helpu dysgu enwau rhannau’r corff!
“Maen nhw wedi fy ysbrydoli i i ddysgu mwy am eu diwylliant a’u hanes, a dwi’n gobeithio y galla’ i wneud yr un peth iddyn nhw wrth gyflwyno traddodiadau Cymraeg Cymru.”
Dywedodd Lillie Bramley, Rheolwr Safle Glynmil ym Merthyr Tudful:
“Mae’n wych gweld yr iaith Gymraeg ar gael i gymunedau fyddai ddim o reidrwydd yn cael cyfle i ddysgu’r sgiliau hyn trwy chwarae fel arfer. Mae hwn yn gyfle newydd cyffrous i bobl ifanc a theuluoedd i ymgyfarwyddo â’r iaith Gymraeg, tra’n rhannu’r diwylliant a threftadaeth Sipsiwn/Teithwyr cryf sydd yma yng Nghymru.”
Dywedodd Ruth Bates, Pennaeth Cyfathrebu Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yng Nghymru:
“Rydyn ni wrth ein boddau i allu cefnogi’r prosiect cyffrous hwn, a hithau hefyd yn fis Teithwyr, Sipsiwn a Roma. Mae rôl Mudiad Meithrin yn allweddol wrth roi’r cychwyn gorau posibl i blant o bob cefndir ar eu taith i fod yn ddinasyddion dwyieithog. Rydyn ni’n falch o fod yn sefydliad cwbl ddwyieithog, ac o gefnogi prosiectau sy’n hyrwyddo’r iaith Gymraeg yn ein cymunedau. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol am wneud hyn yn bosibl.”