Mwy na geiriau
1 March 2023
Gall y Gymraeg fod yn fwy na geiriau i rywun sy’n derbyn gofal. Mae amrywiaeth o gyfleoedd ar gael, beth bynnag eich lefel o Gymraeg.

Mae Llywodraeth Cymru eisiau cryfhau gwasanaethau Cymraeg ym meysydd iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol. I lawer o siaradwyr Cymraeg, mae gallu defnyddio eu hiaith eu hunain yn debygol o fod yn hanfodol i’w gofal.

Dyma rai o fanteision defnyddio’r Gymraeg yn y gwaith:
- dileu’r perygl o ynysu unigolion
- osgoi cwynion posibl i Gomisiynydd y Gymraeg am wasanaethau Cymraeg gwael neu ddiffygiol
- bodloni safonau cydraddoldeb
- asesu anghenion unigol trwy gyfathrebu â defnyddwyr gwasanaeth yn eu dewis iaith
- hyrwyddo enw da eich sefydliad trwy ddarparu gwasanaeth dwyieithog.
Beth yw’r ‘Cynnig Rhagweithiol’?
Ystyr y ‘Cynnig Rhagweithiol’ yw darparu gwasanaeth yn y Gymraeg heb i rywun orfod gofyn amdano. Os nad yw gwasanaethau Cymraeg yn cael eu cynnig mewn ffordd ragweithiol, gallai hynny effeithio ar urddas a pharch pobl.
Nawr yw’r amser perffaith i ddweud shw’mae neu su’mae i yrfa newydd
Ewch i’n porth swyddi yn eich ardal leol
Adnoddau hyfforddi i’ch helpu
Adnoddau dysgu Cymraeg
Mae Cymraeg Gwaith yn darparu cwrs ar-lein di-dâl ar gyfer dechreuwyr, ac mae wedi’i deilwra i’r rhai sy’n gweithio ym maes gofal.
Mae Sgiliaith (Grŵp Llandrillo Menai) yn cynnig cyngor ymarferol ar arferion da, hyfforddiant staff ac adnoddau, er mwyn gwella sgiliau a phrofiadau dwyieithog dysgwyr.
Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cynnig ysgoloriaethau fel bod myfyrwyr israddedig ac ôl-radd yn gallu astudio cyrsiau addysg uwch trwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae’r Cynllun Iaith Gwaith a’r bathodyn swigen oren yn dangos bod unigolyn yn gallu siarad Cymraeg.
Apiau ar gyfer dysgu
Dyma rai Apiau Cymraeg cyffrous ar gyfer dysgu, sydd ar gael ar IOS ac Android.
- Cwrs Mynediad – wedi’i greu gan Brifysgol Aberystwyth
- Learn Welsh – Mynediad 1
- LearnCymraeg – Mynediad – Gogledd Cymru
- Ap Gofalu Trwy’r Gymraeg.
Mentrau Iaith
Mentrau Iaith Cymru yw’r sefydliad cenedlaethol sy’n cefnogi gwaith 22 o Fentrau Iaith lleol ledled Cymru.
Mae’r Mentrau Iaith yn codi ymwybyddiaeth o’r iaith a’r diwylliant Cymraeg, trwy annog pobl i ddatblygu eu gwybodaeth a’u defnydd o’r iaith a gallu ymarfer eu sgiliau iaith mewn amgylchedd cyfeillgar a chymdeithasol yn y gymuned.
Hyfforddiant
Sefydlwyd y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i ddarparu hyfforddiant Cymraeg. Mae’n cynnig ystod eang o hyfforddiant ar-lein, cyrsiau byr, apiau a llawer mwy.
- 1000 o Adnoddau digidol (5 lefel)
- Dysgwch Gymraeg mewn dim ond 5 munud y dydd am ddim gyda Duolingo
- Say something in Welsh
- Fideos YouTube
- Mae Cymraeg Gwaith yn rhaglen hyblyg wedi’i hariannu sydd â’r nod o gryfhau sgiliau Cymraeg yn y gweithle
Bwletin rhithiol ar gyfer adnoddau Cymraeg
Mae hysbysfwrdd rhithiol Cymraeg ar Padlet.com yn cynnwys adnoddau ar gyfer hyfforddiant, dysgwyr, gweithgareddau, apiau, cerddoriaeth, swyddi a llawer mwy i’ch helpu i ddysgu a datblygu eich sgiliau Cymraeg.
Adnoddau addysgol
OpenLearn Wales: The home of bilingual, free learning in Wales – adnodd ar gyfer pobl sydd am wybod mwy am gymdeithas a diwylliant Cymru gan gyflwyno casgliad o adnoddau addysgol di-dâl sy’n berthnasol i Gymru.

Mae gan bob un ohonom gyfraniad i’w wneud i ddarparu gwasanaethau Cymraeg, waeth a ydym yn siarad Cymraeg ai beidio.