Neidio i'r prif gynnwys
Cyffredinol

14 Ionawr 2021

Hysbysebion teledu newydd yn taflu goleuni ar y sector Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant

Mae ymgyrch Gofalwn Cymru wedi cynhyrchu dau hysbyseb teledu newydd i daflu goleuni ar yr effaith gadarnhaol y mae’r sector Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant yn ei chael ar ddysgu a datblygiad plant.

Cynhyrchwyd yr hysbysebion yn Gymraeg a Saesneg, ac maent yn cynnwys Tracey Jones a Sam Tanner, Rheolwr Meithrin a Dirprwy Reolwr Meithrinfa Gofal Dydd Hollies yng Nghaerdydd.

Dros yr wythnosau nesaf, bydd yr hysbysebion yn cael eu dangos ar ITV, Sky AdSmart a S4C, ochr yn ochr ag ymgyrch hysbysebu ddigidol Facebook a YouTube, wrth i werthfawrogiad o’r cyfraniad y mae’r sector Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant barhau i gefnogi plant, rhieni a gofalwyr yn ystod y pandemig.

Dywedodd Lisa Cronk, Rheolwr Gyfarwyddwr Meithrinfa Gofal Dydd Hollies: “Roeddem mor falch o gael ein gwahodd i gymryd rhan yn yr hysbyseb deledu gan ymgyrch blynyddoedd cynnar Gofalwn Cymru, ac i’n staff a’n plant gwych fod yn rhan o ffilmio’r hysbysebion yn hyrwyddo’r sector blynyddoedd cynnar. Roedd yn newid braf o’n rwtin arferol ac rydyn ni i gyd mor gyffrous i weld Hollies ar y teledu!”

Mwy o erthyglau newyddion

Dewch o hyd i swydd mewn gofal plant

Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein bwrdd swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.