Gwiriwr lefel iaith Cymraeg ar gael i weithwyr gofal cymdeithasol
Gall gweithwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru bellach ddefnyddio rhaglen ar-lein am ddim i asesu eu sgiliau Cymraeg. Mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi cydweithio gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i ddatblygu ‘Gwiriwr Lefel’ ar gyfer y sector gofal cymdeithasol.
Mae’r Gwiriwr Lefel yn asesiad ar-lein i’ch helpu i ddarganfod lefel eich Cymraeg o ran sgiliau gwrando, siarad, darllen ac ysgrifennu. Rydych chi'n cwblhau cyfres o asesiadau ar-lein, ac mae eich canlyniadau yn nodi lefel eich Cymraeg - o lefel mynediad hyd at hyfedredd.
Gall unrhyw un sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol ddefnyddio’r Gwiriwr Lefel i asesu eu gallu yn y Gymraeg. Mae am ddim i’w ddefnyddio ac ar gael ar ffonau symudol, tabledi a chyfrifiaduron.
Mae'r Gwiriwr Lefel ar gael yma.
Gallwch ddarganfod mwy am ein cyrsiau Camau ar wefan Dysgu Cymraeg. Mae dau gwrs gwahanol ar gael, ar gyfer gogledd a de Cymru.