Newyddion Diweddaraf
2 Mawrth 2022
Gitarydd o Gymru yn rhoi benthyg cân i Gofalwn Cymru
Mae Callum Alexander Bromage yn byw bywyd prysur. Yn ystod y dydd, mae’r dyn ifanc 24 oed o Abertawe yn chwarae gitâr arweiniol mewn band sy’n dechrau torri trwy’r sîn ar hyn o bryd – band sydd eisoes wedi gweithio gyda chynhyrchwyr sydd wedi ennill gwobrau Grammy. Ond mae Callum hefyd yn rhoi ei amser […]
21 Chwefror 2022
Pam y dylech gynnig rhaglen brentisiaeth yn eich sefydliad.
Mae Gofalwn Cymru wedi bod yn siarad gyda chyflogwyr ledled Cymru er mwyn helpu i ddeall manteision recriwtio prentisiaid i’r sector. Fel cyflogwr byddwch yn: denu pobl ifanc brwdfrydig a’r rhai sy’n newid gyrfa lleihau trosiant staff a gwella’r gyfradd gadw helpu i gydbwyso gweithleoedd sy’n heneiddio cynnig rhagor o gyfleoedd yn eich cwmni darparu […]
10 Chwefror 2022
Dyma Ellis, aelod newydd o’r tîm
Ellis yw Cynrychiolydd ar gyfer Powys a aelod diweddaraf tîm Gofalwn Cymru. Mae gennym saith cynrychiolydd ledled y wlad erbyn hyn, gan gynnwys y Gogledd, Powys, Gorllewin Morgannwg, Caerdydd a’r Fro, Cwm Taf Morgannwg, Gwent a’r Gorllewin. Maen nhw’n helpu i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o ofal cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a gofal plant. Maen […]
24 Ionawr 2022
Hyfforddiant i bobl sydd â diddordeb mewn gweithio yn y sector blynyddoedd cynnar a gofal plant
Ydych chi’n ystyried gweithio gyda phlant, ond yn teimlo bod angen i chi ennill sgiliau a dealltwriaeth o’r rolau sydd ar gael? Mae nifer o leoliadau a cyfleoedd gwahanol ble gallwch weithio yn y blynyddoedd cynnar a gofal plant. Edrychwch ar rai cyfleoedd hyfforddi isod.
16 Tachwedd 2021
Wythnos Genedlaethol Diogelu
Os ydych chi’n ystyried cael swydd mewn gofal cymdeithasol neu flynyddoedd cynnar a gofal plant, cymerwch gip ar hyfforddiant ar-lein newydd i’ch helpu chi i adnabod arwyddion cam-drin, niwed neu esgeulustod plant neu oedolion. Bydd y pecyn e-ddysgu dwyieithog Gofal Cymdeithasol Cymru rhoi dealltwriaeth ymarferol i chi o ddiogelu. Ar ôl ei gwblhau, byddwch yn […]
1 Tachwedd 2021
Enillydd Plant Gofalwn
Lansiwyd cystadleuaeth ar Instagram i ddod o hyd i’r timau gofal plant, y darparwyr chwarae a’r gwarchodwyr plant sy’n mynd yr ail filltir i’r plant sydd dan eu gofal yng Nghymru. Ar 15 Hydref, yn dilyn pleidlais gyhoeddus, cafodd Gaynor Richards ei choroni’n enillydd cystadleuaeth gyntaf Gofalwn Plant. Gwarchodwr Plant o Landysul yw Gaynor Richards. […]
20 Hydref 2021
Tregyrfa
Mae GIG Cymru wedi lansio platfform arloesol, cwbl ddwyieithog i arddangos yr ystod eang o gyfleoedd gyrfa sydd ar gael ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Pentref digidol yw Tregyrfa sy’n caniatáu i ddysgwyr lywio eu ffordd trwy gyfres o adeiladau i gael gwybodaeth am wahanol rolau iechyd a gofal. Gall dysgwyr gyrchu […]
4 Hydref 2021
Seremoni Gwobrau Mudiad Meithrin
Mae codi proffil gweithlu’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru yn allweddol i ddenu a recriwtio mwy o weithwyr i’r sector gofal plant – yn enwedig drwy gyfrwng y Gymraeg – a dangos i gynulleidfa ehangach beth yw’r buddion o weithio mewn maes sydd yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau plant bach Cymru. Mae Mudiad Meithrin yn […]
22 Medi 2021
Porthol Cyflogwr
Mae ein porthol cyflogwr yn fyw! Cyflogwyr, rydyn ni wedi’i gwneud hi’n haws i chi gyhoeddi a rheoli’ch swyddi gwag mewn un lle, ynghyd â’ch rhestr o ymgeiswyr. Ewch i’n tudalen Cyflwyno swydd wag i greu proffil – mae’n cymryd llai na munud. Ar ôl eich cymeradwyo, gallwch bostio’ch swyddi gwag yn rhad ac am […]