Penblwydd Hapus Gofalwn Cymru
Rydyn ni’n dathlu ein blwyddyn gyntaf trwy lansio ymgyrch i helpu i newid canfyddiadau o’r hyn y mae swyddi gofal yn ei gynnwys ac annog mwy o bobl i ddewis gyrfa mewn gofal.
Mae tua un o bob 17 oedolyn yng Nghymru yn gweithio yn y sector, sy’n ei wneud yn gyflogwr mwy na’r GIG. Fodd bynnag, mae’r galw cynyddol am wasanaethau gofal yn golygu bod angen tua 2,000 yn fwy o bobl i weithio yn y sector bob blwyddyn tan 2030.
Mae llawer o bobl yn credu bod gweithio yn y sector yn ymwneud â llawer o ofal personol ac uniongyrchol a’i fod yn waith sgil isel heb lawer o wobrau. Mae’r rheini sy’n rhan o gam nesaf yr ymgyrch yn gobeithio newid canfyddiadau o’r fath drwy dynnu sylw at y pethau sy’n gwneud eu swydd yn werth chweil, y llwybrau datblygu amrywiol sydd ar gael, a’r gallu i ennill cymwysterau wrth weithio.
Un person a ddewisodd yrfa mewn gofal yw Abbi-Lee Davies, Pennaeth Gwasanaeth Gofal Preswyl yn M&D Care yn Sir Gâr.
Dywedodd Abbi-Lee: “Ro’n i’n anhapus yn fy swydd flaenorol. Roedd angen newid gyrfa arna’ i yn fawr, ac fe welais i swydd wag ar gyfer gweithiwr cymorth. Doedd gen i ddim cymwysterau i weithio mewn gofal, ond dwi wedi gallu eu gwneud nhw wrth weithio.
“Mae pobl yn meddwl bod gweithio mewn gofal yn swydd ‘sgil isel’ sy’n cynnwys lot o ofal personol, ond mae’n broffesiwn. Dwi wedi gallu adeiladu fy ngyrfa dros y saith mlynedd ddiwethaf drwy gymryd rhan mewn cynllun rheoli cyflym. Dwi nawr yn gyfrifol am oruchwylio’r gwaith o reoli cartrefi preswyl. Mae hyn yn cynnwys rheoli’r staff a gwneud yn siŵr bod y preswylwyr yn hapus ac yn symud ‘mlaen gyda’u rhaglenni. Mae wedi agor drysau i fi, yn sicr.”
Mae Martin Katawaluwa yn Rheolwr Gofal Plant Preswyl yn Wrecsam. Dechreuodd Martin weithio fel gweithiwr gofal rhan-amser mewn cartref plant preswyl yn 2006 wrth astudio ar gyfer ei radd Meistr mewn Peirianneg Drydanol. Dywedodd: “Ro’n i’n meddwl y byddai fy ngyrfa yn dilyn llwybr penodol ar ôl fy ngradd Meistr, ond ro’n i wir yn mwynhau gweithio mewn gofal, felly fe arhoses i.
“Symudes i ‘mlaen drwy’r graddau a dwi nawr yn rheolwr cartref i blant rhwng 11 a 18 oed ac wedi cwblhau gradd Meistr arall mewn arweinyddiaeth.
“Nid yw gweithio yn y sector gofal cymdeithasol yn fêl i gyd. Gall fod diwrnodau anodd, ond i’r person cywir gall fod yn yrfa werth chweil. Rhaid i chi fod yn rhywun sy’n deall pobl ac sydd eisiau eu helpu a gwneud gwahaniaeth, gan roi eich anghenion eich hun o’r neilltu.”
Ymunwch yn y sgwrs ar gyfryngau cymdeithasol trwy ddefnyddio #GofalwnCymru