Cartrefi Gofal
Mae gan gartrefi gofal rôl hanfodol yng nghymdeithas Cymru. Yma, rydym yn nodi beth yn union mae cartrefi gofal yn ei wneud ac yn darparu cyngor ar ddod o hyd i gartref gofal a fydd yn diwallu’ch anghenion. Rydym hefyd yn dangos i chi sut brofiad yw gweithio mewn cartref gofal a sut i ddod o hyd i swydd.
Beth yw Cartrefi Gofal?
Cartrefi gofal, a elwir yn gartrefi gofal preswyl hefyd, yw cartrefi lle mae oedolion yn gallu byw gyda’r gofal a’r cymorth ychwanegol a allai fod ei angen arnynt.
Maen nhw’n ceisio creu amgylchedd cartrefol a chroesawgar i’w trigolion, eu teuluoedd a’u ffrindiau, ac i staff. Yn ogystal â llety, maen nhw’n cynnig ystod eang o weithgareddau i drigolion eu mwynhau, a all gynnwys gwibdeithiau, ymarfer corff a gweithgareddau diwylliannol. Mae cartrefi gofal yn cefnogi pobl ag amrywiaeth o anghenion gwahanol ac yn helpu trigolion i fyw’r bywyd maen nhw am ei fyw.
Mae staff hyfforddedig ar gael ddydd a nos. Mae staff wedi ymroi i sicrhau bod anghenion unigol y trigolion yn cael eu diwallu. Mae hyn yn cynnwys darparu gofal personol fel ymolchi, gwisgo, bwyta, cymryd meddyginiaeth a mynd i’r toiled. Ymhellach, mae’r staff yn aml yn meithrin cyswllt clos â’r trigolion, gan ddarparu synnwyr o gyfeillgarwch a chymorth emosiynol.
Mae rhai cartrefi gofal yn darparu ar gyfer pobl ag anghenion meddygol penodol. Er enghraifft, i rywun sydd angen gofal bedair awr ar hugain gan nyrs gofrestredig. Gelwir y rhain yn gartrefi nyrsio, neu’n gartrefi gofal gyda nyrsio yn aml. Gellir cael y gwasanaeth hwn mewn rhai cartrefi gofal preswyl, tra bod rhai darparwyr yn darparu eu gwasanaethau’n benodol ar gyfer y rhai ag anghenion penodol.
Dod o hyd i Gartref Gofal yng Nghymru
Fel rheol, mae cartrefi gofal yn cael eu hystyried fel opsiwn i bobl nad ydyn nhw’n gallu byw yn eu cartref eu hunain mwyach (hyd yn oed gyda chymorth gan ffrindiau, teulu neu ofalwyr cyflogedig), neu bobl â chyflyrau meddygol cymhleth sydd angen sylw arbenigol.
Mae’n bwysig ystyried y math o ofal sydd ei angen wrth ymchwilio. Bydd darparwyr yn rhoi manylion am y gofal maen nhw’n arbenigo ynddo ar eu gwefan, ynghyd â’r manylion cyswllt i wneud ymholiadau pellach. Nid yw pob cartref gofal yn darparu mathau arbenigol o ofal fel gofal seibiant, gofal nyrsio neu ofal dementia, felly mae’n bwysig cofio hyn wrth ymchwilio. Bydd staff gwasanaethau cymdeithasol yn gallu helpu i ddod o hyd i gartref addas i ddiwallu’ch anghenion.
Yn ffodus, waeth a ydych chi’n chwilio am ofal preswyl ar gyfer blynyddoedd olaf bywyd neu am ofal mwy arbenigol, mae yna ddarparwyr i ddiwallu’ch anghenion ledled Cymru. Gallwch weld rhai o’r darparwyr sydd ar gael yn lleol i chi drwy ddefnyddio’n cronfa ddata o ddarparwyr gofal cymdeithasol.
Pwy sy’n rheoleiddio cartrefi gofal?
Yng Nghymru, mae’n rhaid i gartrefi gofal fod wedi’u cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC), sy’n cofrestru, arolygu a chymryd camau i wella ansawdd gwasanaethau gofal ledled Cymru.
Daeth Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 i rym ar 2 Ebrill 2018. Mae’n canolbwyntio ar wella ansawdd gofal a chymorth, ac ar ganlyniadau lles i bobl sy’n defnyddio gwasanaethau. Roedd hefyd yn rhoi mwy o bwerau i Arolygiaeth Gofal Cymru gymryd camau cryfach, cyflymach pan fo angen. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Arolygiaeth Gofal Cymru.
Gweithio mewn Cartrefi Gofal
Os hoffech chwilio am swyddi yn agos atoch chi, mae porth Swyddi GofalwnCymru yn cynnwys y cyfleoedd diweddaraf.
Mae yna sawl rôl mewn cartref gofal, yn cynnwys gweithwyr gofal, nyrsys, a rheolwyr. Waeth a ydych chi’n cychwyn arni neu fod gennych chi brofiad a chymwysterau eisoes, mae yna swydd i chi yn y maes gofal.
Dydy gweithio mewn cartref gofal ddim yn addas i bawb ond gall roi boddhad mawr i’r person cywir. Os ydych am wybod am rai o fanteision ac anfanteision gweithio mewn cartref gofal, dyma Jake i roi rhywfaint o flas i ni. Mae e’n disgrifio’r berthynas sy’n cael ei meithrin â thrigolion, ond hefyd y pwysau a ddaw gyda’r swydd.
Os nad ydych yn siŵr o hyd ai dyma’r swydd iawn i chi, gwyliwch fideo Jean ar Gofal yn Galw: Gyrfa i chi? i ddysgu mwy am yrfa mewn cartref gofal.
Roles within Cartrefi Gofal
Gweithiwr Cartref Gofal i Oedolion
Fel Gweithiwr Cartref Gofal i Oedolion, byddwch chi’n darparu gofal a chymorth i breswylwyr, ac yn eu helpu hefyd i gadw eu hannibyniaeth ac i wneud dewisiadau.
Uwch Weithiwr Cartref Gofal i Oedolion
Fel Uwch Weithiwr Cartref Gofal i Oedolion, byddwch chi’n darparu gofal a chymorth i breswylwyr, ac yn eu helpu i gadw eu hannibyniaeth ac i wneud dewisiadau.
Cydgysylltydd Gweithgareddau Cartref Gofal i Oedolion
Fel Cydgysylltydd Gweithgareddau Cartref Gofal i Oedolion, byddwch chi’n gyfrifol am greu rhaglen o weithgareddau ar gyfer y preswylwyr yn y cartref gofal.
Dirprwy Reolwr Cartref Gofal
Fel Dirprwy Reolwr Cartref Gofal, byddwch yn cefnogi rheolwr y cartref gofal i sicrhau bod y cartref yn gweithredu’n effeithiol.
Rheolwr Cartref Gofal
Fel Rheolwr Cartref Gofal, byddwch yn pennu cyfeiriad gweithredol a threfnu bod y cartref yn gweithredu’n effeithiol.
Nyrs Cartref Gofal i Oedolion
Fel Nyrs Cartref Gofal i Oedolion, byddwch yn darparu gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn i breswylwyr sydd ag anghenion iechyd cymhleth yn aml.
Swyddi gwag mewn gofal
Mae Cymru angen mwy o weithiwyr gofal cymdeithasol.
Mae llawer o bobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol wedi neidio o swyddi fel lletygarwch neu fanwerthu. Defnyddiwch eich sgiliau trosglwyddadwy a gwnewch gais nawr.