Cysylltu Bywydau
Mae Cysylltu Bywydau yn cynnig sefydlogrwydd a sicrwydd er mwyn i bobl fyw eu bywyd gorau. Ond beth mae’n ei olygu, a phwy mae’n ei helpu? Mae’r dudalen hon yn rhoi cyflwyniad clir i wasanaethau Cysylltu Bywydau yng Nghymru. Hefyd, mae gennym gyngor i unrhyw un sy’n dymuno dod yn ofalwr Cysylltu Bywydau.
Dod o hyd i gyfle Cysylltu Bywydau yn eich ardal chi
Cynllun Cysylltu Bywydau Gwynedd a Ynys Môn
Cynllun Cysylltu Bywydau PSS Gogledd Cymry (Conwy, Sir Ddinbych a Wrexham)
Cynllun Cysylltu Bywydau Powys
Cynllun Cysylltu Bywydau Gorllewin Cymru (Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro a Cheredigion)
Cynllun Cysylltu Bywydau Ategi (Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Rhondda Cynon Taf a Chaerdydd
I gael rhagor o wybodaeth ac i ddarllen am yr effaith y mae gofalwyr Cysylltu Bywydau yn ei chael ledled Cymru, ewch i wefan Cysylltu Bywydau neu ffoniwch 0151 227 3499.
Beth yw Cysylltu Bywydau?
Mae Cysylltu Bywydau ar gyfer pobl 18+ oed sydd am fyw’n annibynnol, gyda chefnogaeth ychwanegol rhwydwaith teulu a chymuned. Mae’n ddewis amgen i fyw mewn llety â chymorth neu ofal preswyl.
Mae gofalwyr Cysylltu Bywydau yn rhoi cymorth i bobl yn eu cartrefi eu hunain am ddiwrnod yr wythnos, neu am ychydig ddyddiau ar y tro, ac mae eraill yn darparu gofal a chymorth hirdymor, ac yn byw yn yr un lle â’r unigolyn sydd angen cymorth. Mae’n debyg i faethu – i oedolion. Maen nhw’n rhannu bywyd teuluol gyda pherson sydd angen cymorth i fyw’n dda. Gyda’i gilydd, maen nhw’n helpu i ddatblygu cymunedau iach sydd wedi’u cysylltu ac yn hyrwyddo lles.
Maen nhw'n cael eu paru'n ofalus gyda pherson sy'n ceisio cael cyfle i Cysylltu Bywydau. Diddordebau a rennir, ffyrdd o fyw, yr un hiwmor yw rhai o bethau sy'n cael eu hystyried er mwyn sicrhau'r cywedd.
Pwy sy’n cael cymorth gan Cysylltu Bywydau?
Mae Cysylltu Bywydau yn rhoi cymorth i bobl ag Anableddau Dysgu, anableddau corfforol, pobl sy’n byw gyda dementia, salwch meddwl, pobl sydd angen dod allan o’r ysbyty, pobl ifanc sy’n pontio o ofal maeth, pobl hŷn, yn ogystal â darparu lleoliadau rhieni a babanod ar gyfer rhieni newydd ag anableddau dysgu.
Pwy all ddod yn ofalwr Cysylltu Bywydau?
Mae gofalwyr sy'n Cysylltu Bywydau yn dod o bob cefndir a chefndir ac nid oes angen iddyn nhw gael profiad gofalu. Y cyfan sydd ei angen yw amser, ymrwymiad a'r awydd i helpu rhywun i gael y gorau o fywyd.
Sut ydw i’n dod yn ofalwr Cysylltu Bywydau?
Mae gofalwyr Cysylltu Bywydau yn cael gweld y gwahaniaeth anhygoel y gall Cysylltu Bywydau ei wneud, gwylio person yn magu hyder, ennill mwy o annibyniaeth, dysgu sgiliau newydd a phrofi ymdeimlad o berthyn am y tro cyntaf yn ei fywyd.
Wrth wneud cais i fod yn ofalwr Cysylltu Bywydau, byddwch yn mynd drwy broses gymeradwyo. Unwaith y byddan nhw wedi’u cymeradwyo, caiff gofalwyr Cysylltu Bywydau eu hyfforddi a dod yn aelodau o Cysylltu Bywydau Plws sy’n darparu cefnogaeth ac arweiniad.
Mae gofalwr Cysylltu Bywydau yn cael ei baru’n ofalus â pherson sy’n chwilio am gyfle Cysylltu Bywydau. Diddordebau yn gyffredin, ffordd debyg o fyw a synnwyr digrifwch - dim ond rhai o’r pethau sy’n cael eu hystyried wrth geisio paru’n gywir.
“Roeddwn i’n gweithio 12 awr y dydd a ddim yn cael cyfle i fwynhau bywyd teuluol... Dw i bellach yn ofalwr Cysylltu Bywydau – gallaf roi cymorth i rywun fyw ei fywyd gorau a medru magu fy mab ar yr un pryd”. Gofalwr Cysylltu Bywydau.
Gwyliwch y fideo yma am fwy o wybodaeth am ddod yn ofalwr Cysylltu Bywydau.
Swyddi gwag mewn gofal
Mae Cymru angen mwy o weithiwyr gofal cymdeithasol.
Mae llawer o bobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol wedi neidio o swyddi fel lletygarwch neu fanwerthu. Defnyddiwch eich sgiliau trosglwyddadwy a gwnewch gais nawr.