fbpx
Skip to main content

Gofal Cartref


Mae gofal cartref yn hanfodol i blant a phobl ifanc ledled Cymru. Ond beth yn union yw gofal cartref a pham ei fod mor bwysig? Rydym yn egluro beth mae gofal cartref yn ei olygu ac yn rhoi cyngor ar sut i ddod o hyd i ddarparwr sy’n agos at eich cartref chi. Byddwch hefyd yn dysgu rhywfaint am y gwaith o ddarparu cefnogaeth gartref i blant a phobl ifanc, ac mae yna rai dolenni i'ch helpu i ddod o hyd i swyddi gofal cartref.

 

Beth yw Gofal Cartref?

Gelwir gofal cartref yn domiciliary care neu home care yn Saesneg. Mae'r gwasanaethau hyn yn darparu gofal a chefnogaeth hanfodol i blant a phobl ifanc sy'n byw gartref. Mae'r gefnogaeth hon yn cael ei chynllunio o gwmpas anghenion ac arferion plant a phobl ifanc i'w helpu i aros yn eu cartref mewn ffordd ddiogel gyda chefnogaeth.

Bydd gofalwr cartref yn darparu gwasanaethau amrywiol i'r plant a'r bobl ifanc y maent yn gofalu amdanynt. Yr unigolyn, ei anghenion ef ac anghenion y teulu/ gofalwyr a'r hyn sy'n bwysig iddyn nhw ddylai lywio’r ddarpariaeth. Gall y gefnogaeth hon gynnwys galluogi plant a phobl ifanc i gymryd rhan mewn gweithgareddau fel gwneud eu hunain yn barod i fynd i’r ysgol neu fynd ar wibdeithiau, meithrin cyfeillgarwch, cyfathrebu, chwarae a chael ansawdd bywyd da. Mae modd darparu rhai gwasanaethau gofal iechyd yn y cartref, lle bo hynny'n briodol.

Mae helpu plant a phobl ifanc i gynnal cysylltiadau â'u cymunedau yn un o’r agweddau pwysicaf ar y gwasanaeth hwn. Mae gofal cartref yn galluogi plant a phobl ifanc i barhau i wneud y pethau sydd bwysicaf iddyn nhw gan barhau i gadw cysylltiad â'u ffrindiau a'u teuluoedd.

 

Dod o hyd i wasanaethau Gofal Cartref

Mae gwasanaethau gofal cartref yn darparu staff proffesiynol a chymwys i gynnal ymweliadau cartref ledled Cymru. Mae'r gwasanaethau hyn yn addas ar gyfer pob math o blant a phobl ifanc, fel plant a phobl ifanc â salwch difrifol, plant a phobl ifanc sy'n gwella ar ôl cael llawdriniaeth, neu blant a phobl ifanc ag anghenion ychwanegol.

Os nad ydych yn siŵr ble i ddechrau chwilio am y darparwr cywir, gall ein cronfa ddata o ddarparwyr gwasanaeth gofal cartref ledled Cymru fod o gymorth. Gallwch hidlo'r canlyniadau i ddod o hyd i wasanaethau yn eich ardal chi a dysgu mwy amdanynt ar eu gwefannau.

 

Pwy sy'n rheoleiddio gwasanaethau Gofal Cartref?

Mae darparwyr gwasanaeth gofal cartref yn cael eu rheoleiddio yng Nghymru gan Arolygiaeth Gofal Cymru o dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 a ddaeth i rym ar Ebrill 2, 2018. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Arolygiaeth Gofal Cymru.

Mae'r holl reolwyr a gweithwyr sy'n darparu Gwasanaethau Gofal Cartref wedi'u cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru. Gallwch wneud cais i gofrestru neu i chwilio'r gofrestr ar-lein ar wefan Gofal Cymdeithasol Cymru.

Gweithio ym maes Gofal Cartref

Os ydych chi'n barod i chwilio am swyddi gwag gyda darparwyr gwasanaeth gofal cartref sy’n agos at eich cartref, mae gan borth swyddi Gofalwn Cymru y cyfleoedd diweddaraf.

Mae nifer o swyddi ar gael ym maes gwasanaethau gofal cartref, yn amrywio o weithwyr cymorth gofal cartref, i gydlynwyr gwasanaethau a rheolwyr. Mae’r swyddi amrywiol sydd ar gael yn addas ar gyfer pobl sy'n awyddus i ennill profiad, yn ogystal â phobl sydd eisoes â phrofiad a chymwysterau

Gall gweithio ym maes gwasanaethau gofal cartref fod yn heriol. Gall hefyd fod yn amrywiol, yn werth chweil ac yn hyblyg.

Roles within Gofal Cartref

Gweithiwr Cymorth Gofal Cartref


Fel Gweithiwr Cymorth Gofal Cartref, byddwch yn darparu gofal a chymorth i blant a phobl ifanc yn eu cartref eu hunain.

About this role

Uwch Weithiwr Gofal Cartref – Plant


Fel Uwch Weithiwr Gofal Cartref, byddwch yn darparu gofal a chymorth i blant a phobl ifanc yn eu cartref eu hunain.  

About this role

Cydgysylltydd Gwasanaethau Gofal Cartref – Plant


Fel Cydgysylltydd Gwasanaethau Gofal Cartref, byddwch yn cydlynu gwaith tîm o Weithwyr Gofal Cartref ac Uwch Weithwyr Gofal Cartref.  

About this role

Dirprwy Reolwr Gofal Cartref – Plant


Fel Dirprwy Reolwr Gofal Cartref, byddwch yn helpu Rheolwr y gwasanaeth i wneud yn siŵr ei fod yn rhedeg yn effeithiol.  

About this role

Rheolwr Gofal Cartref (gwasanaethau i blant a phobl ifanc)


Fel Rheolwr Gofal Cartref, byddwch yn pennu’r cyfeiriad gweithredol ac yn trefnu’r gwaith o redeg y gwasanaeth yn effeithiol.

About this role

Swyddi gwag mewn gofal

Mae Cymru angen mwy o weithiwyr gofal cymdeithasol.

Mae llawer o bobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol wedi neidio o swyddi fel lletygarwch neu fanwerthu. Defnyddiwch eich sgiliau trosglwyddadwy a gwnewch gais nawr.

Search for jobs