fbpx
Skip to main content

Gofal Maeth


Mae gofal maeth yn darparu amgylchedd teuluol diogel i blant sydd, am lawer o wahanol resymau, yn methu byw gyda'u teuluoedd eu hunain. Yma rydym yn nodi'n union beth mae gofalwyr maeth yn ei wneud a sut gallwch chi ddod yn ofalwr maeth.

 

Beth yw Gofal Maeth?

Mae gofal maeth yn rhoi cefnogaeth i blant o lawer o wahanol gefndiroedd sydd yn aml wedi cael profiadau bywyd heriol.

Mae gofalwr maeth yn gofalu am blant neu bobl ifanc sy’n methu byw yn eu cartref teuluol eu hunain ac yn rhoi cefnogaeth ymarferol ac emosiynol iddyn nhw mewn amgylchedd diogel.

Fe'i defnyddir i ddarparu gofal dros dro tra bod rhieni'n cael y gefnogaeth angenrheidiol sydd, gobeithio, yn caniatáu i'r plant ddychwelyd i'w cartref teuluol. Bryd arall, gall plant aros mewn gofal maeth yn hirach, gallant fynd ymlaen i gael eu mabwysiadu neu, pan fyddant yn barod, gallant symud ymlaen i fyw'n annibynnol.

 

Dod o hyd i Ofalwr Maeth yng Nghymru

Mae gofal maeth fel arfer yn cael ei ystyried yn opsiwn i blant neu bobl ifanc nad ydyn nhw bellach yn gallu byw yn eu cartrefi eu hunain gyda'u teuluoedd eu hunain.

Mae gan awdurdodau lleol eu gweithlu gofal maeth eu hunain ac maent hefyd yn cael eu cefnogi gan asiantaethau gofal maeth. Bydd staff gwasanaethau cymdeithasol yn cynnig gwybodaeth a chyngor, ac yn gweithio gydag unigolion i ddod o hyd i’r cartref mwyaf addas i ddiwallu eu hanghenion.

 

Pwy sy'n rheoleiddio Gwasanaethau Maethu?

Yng Nghymru, rhaid i wasanaethau maethu fod wedi'u cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC), sy'n cofrestru, archwilio a gweithredu i wella ansawdd gwasanaethau gofal ledled Cymru.

Daeth Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 i rym ar 2 Ebrill 2018. Mae'n canolbwyntio ar wella ansawdd y gofal a’r gefnogaeth, ac ar ganlyniadau llesiant i bobl sy'n defnyddio gwasanaethau. Hefyd rhoddodd fwy o bwerau i Arolygiaeth Gofal Cymru gymryd camau cyflymach a chryfach yn ôl yr angen. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Arolygiaeth Gofal Cymru.

 

Gweithio mewn Gofal Maeth

Pan fyddwch yn gwneud cais i fod yn ofalwr maeth, rhaid i chi ddilyn proses fanwl ar gyfer asesu a chymeradwyo. Rhaid i chi fod yn 21 oed o leiaf (er y gallwch wneud cais i faethu yn 18 oed yn ôl y gyfraith) a bod yn breswylydd amser llawn yn y DU neu fod â chaniatâd i aros yno. Rhaid bod gennych ystafell wely sbâr sy'n ddigon mawr i blentyn neu berson ifanc fyw ynddi a gallu rhoi'r amser i ofalu, yn aml yn llawn amser.

Os hoffech chi chwilio am swyddi gwag yn eich ardal chi, mae gan borth swyddi Gofalwn Cymru y cyfleoedd diweddaraf.

Mae'r Rhwydwaith Maethu hefyd yn cynnig cefnogaeth ac arweiniad ar eu gwefan:

Maethu Cymru, y rhwydwaith cenedlaethol o 22 gwasanaeth maethu’r Awdurdodau Lleol yng Nghymru.

Roles within Gofal Maeth

Gofalwr Maeth


Fel Gofalwr Maeth byddwch yn rhoi cartref i blant a phobl ifanc sydd ddim yn gallu byw gartref gyda’u teulu, a chroesawi blant i mewn i’ch bywyd cartref.

About this role

Rheolwr Gwasanaethau Maethu


Fel Rheolwr Gwasanaethau Maethu byddwch yn gyfrifol am arwain gwasanaeth o safon uchel sy’n rhoi sefydlogrwydd a diogelwch i blant a phobl ifanc sy’n byw i ffwrdd o’u cartref teuluol.

About this role

Swyddi gwag mewn gofal

Mae Cymru angen mwy o weithiwyr gofal cymdeithasol.

Mae llawer o bobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol wedi neidio o swyddi fel lletygarwch neu fanwerthu. Defnyddiwch eich sgiliau trosglwyddadwy a gwnewch gais nawr.

Search for jobs