fbpx
Skip to main content

Cylch Chwarae a Chylch Meithrin


Mae Cylch Chwarae neu Gylch Meithrin yn darparu profiad safonol o chwarae, dysgu a datblygu i blant rhwng dwy a phedair oed. Fe welwch ragor o wybodaeth am yr hyn maen nhw'n ei wneud a chyngor ar sut i ddod o hyd i swydd mewn cylch chwarae ar y dudalen hon.

 

Beth yw Cylch Chwarae / Cylch Meithrin?

Mae Cylchoedd Chwarae/ Cylchoedd Meithrin hefyd yn cael yr enw ‘Gofal Sesiynol’. Fel rheol, darperir pob sesiwn am hyd at bedair awr y dydd ac mae plant sy'n mynychu yn cael eu cefnogi i ddysgu trwy chwarae a chymryd rhan.

Mae modd rhedeg grwpiau chwarae yn breifat neu gan bwyllgor o rieni neu ofalwyr lleol. Yn aml, cynhelir y sesiynau mewn canolfannau cymunedol, ysgolion neu feithrinfeydd. Gallant ddigwydd yn ystod y tymor yn unig, neu yn ystod gwyliau'r ysgol, a gallant ddarparu gwasanaethau cymorth i gefnogi ysgolion cynradd lleol.

Nod darparwyr yw creu amgylchedd diogel a gafaelgar lle gall plant ddysgu trwy chwarae a chymryd rhan mewn gweithgareddau cynhwysol. Gall plant ddatblygu eu sgiliau cymdeithasol trwy ryngweithio â phlant eraill.

Mae'n ofynnol i Gylchoedd Chwarae / Cylchoedd Meithrin yng Nghymru fodloni'r safonau gofynnol a nodwyd ac a orfodir gan Arolygiaeth Gofal Cymru.

 

Dod o hyd i swydd mewn Cylch Chwarae / Cylch Meithrin

Os ydych chi'n barod i ddod o hyd i'ch rôl nesaf ar unwaith, gallwch chi ddechrau yma trwy bori trwy'r swyddi gwag a restrir ar ein gwefan.

Mae gweithio mewn cylch chwarae neu gylch meithrin yn opsiwn gwych i unrhyw un sydd â diddordeb mewn datblygiad plant trwy chwarae a dysgu. Rydym ni wedi creu fideo i dynnu sylw at ba mor bwysig yw'r gweithwyr hyn wrth helpu plant i gyrraedd eu potensial.

Gall gweithio yn y blynyddoedd cynnar fod yn yrfa hir sy’n rhoi llawer o foddhad. Fe welwch rolau swydd o ymarferydd cynorthwyol gofal sesiynol, i ymarferydd a'r holl ffordd i fyny i reolwr yn y maes hwn. Mae Jane yn rhoi darlun gwych inni o’r yrfa 33 mlynedd y mae wedi’i gael yn gweithio gyda’r blynyddoedd cynnar, lle mae'n pwysleisio pa mor arbennig a gwerth chweil yw’r gwaith. Gallwch wylio fideo Jane yma

Os ydych chi am gymryd eich cam cyntaf i weithio yn y blynyddoedd cynnar, mae gan y Gymdeithas Broffesiynol ar gyfer Gofal Plant a Blynyddoedd Cynnar (PACEY) ganllaw gwych ar sut i ddechrau. Gallwch ei ddarllen ar wefan PACEY.

Mae Blynyddoedd Cynnar Cymru yn darparu cefnogaeth ac arweiniad ar eu gwefan i aelodau ac i unigolion sydd â diddordeb yn y sector gofal plant, yn gyflogedig neu'n gwirfoddoli:

Mae Mudiad Meithrin hefyd yn cynnig cefnogaeth ar gyfer hyfforddi ar eu gwefan:

Roles within Cylch Chwarae a Chylch Meithrin

Ymarferydd Gofal Dydd Sesiynol


Fel Ymarferydd Gofal Dydd Sesiynol byddwch yn helpu i greu amgylchedd diogel, croesawgar a chynhwysol i blant, er mwyn cefnogi eu gofal, chwarae, dysgu a datblygiad.

About this role

Ymarferydd Cynorthwyol Gofal Dydd Sesiynol


Fel Ymarferydd Cynorthwyol Gofal Dydd Sesiynol, byddwch yn gweithio o dan oruchwyliaeth i ddarparu gofal i blant.

About this role

Rheolwr Gofal Dydd Sesiynol


Fel Rheolwr Gofal Dydd Sesiynol byddwch yn gyfrifol am ansawdd, darpariaeth a chynaliadwyedd eich lleoliad yn gyffredinol.

About this role

Gweithiwr Chwarae


Fel Gweithiwr Chwarae byddwch yn gyfrifol am sefydlu gweithgareddau i blant archwilio drwy chwarae. Gan weithio fel rhan o dîm, byddwch yn helpu i greu lle diogel, croesawgar a chynhwysol ar gyfer plant a phobl ifanc 3-14 oed. Gall eich lleoliad gwaith gynnwys ystod eang o leoliadau, megis: Gofal plant y tu allan i’r ysgol […]

About this role

Uwch Weithiwr Chwarae


Mae Uwch Weithiwr Chwarae yr cyflawni’r un rôl â gweithiwr chwarae wrth gefnogi chwarae plant, ond gyda chyfrifoldeb ychwanegol am y lleoliad. Gallai’r cyfrifoldebau ychwanegol gynnwys goruchwylio gwirfoddolwyr a gweithwyr chwarae, ymdrin â chyllidebau neu gynrychioli’r lleoliad mewn cyfarfodydd gyda gweithwyr proffesiynol eraill. Byddwch yn cydweithio â rheolwyr, eich tîm, plant a theuluoedd i greu […]

About this role

Swyddi gwag mewn gofal

Mae Cymru angen mwy o weithiwyr gofal cymdeithasol.

Mae llawer o bobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol wedi neidio o swyddi fel lletygarwch neu fanwerthu. Defnyddiwch eich sgiliau trosglwyddadwy a gwnewch gais nawr.

Search for jobs