Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae gwasanaethau cymdeithasol yn darparu cefnogaeth i gymunedau Cymru. Ond beth ydyn nhw, a phwy sy’n cael cymorth? Mae'r dudalen hon yn rhoi cyflwyniad clir i'r gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru. Mae gennym hefyd gyngor i unrhyw un sy'n chwilio am swydd ym maes gwasanaethau cymdeithasol, neu bobl sydd â diddordeb mewn ennill cymwysterau a hyfforddi ar gyfer y swydd.
Beth yw gwasanaethau cymdeithasol?
Mae gwasanaethau cymdeithasol yn bodoli i ddarparu cefnogaeth sy’n canolbwyntio ar wella lles teuluoedd, plant, oedolion a gofalwyr.
Un rôl allweddol yn y gwasanaethau cymdeithasol yw rôl y gweithiwr cymdeithasol. Rhaid bod gan weithiwr cymdeithasol radd mewn gwaith cymdeithasol a bod wedi ei gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru. Mae’n cael ei hyfforddi i roi cefnogaeth a all helpu pobl i wneud newidiadau a datrys problemau personol a chymdeithasol.
Gall y gefnogaeth honno gynnwys gwaith arbenigol neu gan amrywiol asiantaethau, megis gwybodaeth, cyngor a gwasanaethau cymorth. Hefyd mae Timau Dyletswydd Brys (EDT), timau diogelu a gwasanaethau iechyd meddwl. Rhoddir cefnogaeth ym mha bynnag leoliad y mae ei angen, felly gallai gweithwyr cymdeithasol gael eu hunain yn gweithio mewn cartrefi, ysgolion, ysbytai neu o fewn sefydliadau eraill y sector cyhoeddus, preifat neu wirfoddol.
Er bod rôl gwasanaethau cymdeithasol yn gymhleth ac yn amrywiol, darparu gofal a chefnogaeth hanfodol yw’r sylfaen allweddol. Maent yn darparu llais i deuluoedd, plant, oedolion a gofalwyr, gan greu amgylchedd diogel ac iach sy'n hyrwyddo hawliau a lles dynol.
Sut mae cysylltu â'r Gwasanaethau Cymdeithasol?
Os ydych chi am gysylltu â'ch awdurdod lleol neu gwmni dielw i ofyn am wasanaethau cymdeithasol yng Nghymru, mae modd chwilio gwefan GIG 111 Cymru am wasanaethau lleol. Cofnodwch eich tref, dinas neu god post er mwyn dod o hyd i wasanaethau lleol.
Fel arall, mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) yn darparu dolenni a manylion cyswllt ar gyfer holl Awdurdodau Lleol Cymru.
Dod o hyd i swyddi yn y Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae sawl math o rôl ar gael yn y gwasanaethau cymdeithasol – gweithiwr cymdeithasol, cynghorydd i berson ifanc, a chynorthwyydd gwasanaethau cymdeithasol. Gall gweithwyr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso neu weithwyr profiadol ddechrau chwilio am swyddi yma ar wefan Gofalwn Cymru.
- Pori a gwneud cais am swydd ym maes gwasanaethau cymdeithasol trwy borth swyddi Gofalwn Cymru.
- Edrych ar wefannau a manylion cyswllt cyflogwyr gweithwyr cymdeithasol yn ein cronfa ddata o swyddi.
Efallai yr hoffech hefyd gysylltu â'ch awdurdod lleol i holi am swyddi gwag.
A ddylwn i ddilyn gyrfa fel Gweithiwr Cymdeithasol?
Mae paratoi at weithio ym maes gwaith cymdeithasol yn ddewis gyrfa i’w edmygu ac mae angen llawer o sgiliau. Bydd angen sgiliau cyfathrebu a dyfalbarhad rhagorol arnoch i wynebu'r heriau beunyddiol a ddaw yn sgil y swydd hon. Bydd angen y gallu arnoch hefyd i ddysgu am theori cyfraith, polisi a gwaith cymdeithasol wrth ennill eich cymwysterau. Os oes gennych y rhinweddau hyn a'ch bod yn awyddus i hyrwyddo llesiant pobl a gwella eu canlyniadau, gallai gyrfa yn y gwasanaethau cymdeithasol fod yn addas i chi.
Os nad ydych chi’n hoff o bynciau a gwaith academaidd gall hyn wneud i rai pobl ailfeddwl a theimlo nad dyma’r dewis iddyn nhw. Ond os ydych chi’n awyddus iawn i ofalu am eraill, gallech fod yn weithiwr cymdeithasol rhagorol. Enghraifft berffaith o berson o’r fath yw Amy o Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Gadawodd hi’r ysgol heb unrhyw gymwysterau ond yn 33 oed, ar ôl bod yn ofalwr maeth ac ar ôl gweithio mewn canolfan alwadau, mae hi wedi cymhwyso fel gweithiwr cymdeithasol. Bellach mae ganddi swydd lle nad oes unrhyw ddau ddiwrnod yr un fath, ac mae’n cael boddhad mawr o’i gwaith trwy feithrin perthnasoedd a grymuso teuluoedd.
Edrych ar yr Astudiaeth Achos – Amy, Gweithiwr Cymdeithasol.
I ddysgu rhagor am sut i gael cymwysterau a hyfforddiant, mae gwefan Gofal Cymdeithasol Cymru yn cynnwys yr holl wybodaeth angenrheidiol i’ch galluogi i gychwyn yn y proffesiwn cyffrous, gwerth chweil a heriol hwn. Mae gwybodaeth am gyllid ar gyfer graddau gwaith cymdeithasol yng Nghymru hefyd ar gael
Roles within Gwasanaethau Cymdeithasol
Swyddi gwag mewn gofal
Mae Cymru angen mwy o weithiwyr gofal cymdeithasol.
Mae llawer o bobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol wedi neidio o swyddi fel lletygarwch neu fanwerthu. Defnyddiwch eich sgiliau trosglwyddadwy a gwnewch gais nawr.