Gwasanaethau Cymdeithasol
Gall gwasanaethau cymdeithasol helpu i gadw cymunedau gyda’i gilydd yng Nghymru. Ond beth mae’n ei olygu, a phwy mae’n ei helpu? Mae’r dudalen hon yn rhoi cyflwyniad clir i wasanaethau cymdeithasol yng Nghymru. Mae gennym gyngor hefyd i unrhyw un sy’n chwilio am swydd gwasanaethau cymdeithasol, neu bobl sydd â diddordeb mewn ennill cymwysterau a chael hyfforddiant ar gyfer y swydd.
Beth yw gwasanaethau cymdeithasol?
Mae gwasanaethau cymdeithasol yn bodoli i ddarparu cymorth sy’n canolbwyntio ar wella lles teuluoedd, plant, oedolion a gofalwyr. Mae gweithwyr cymdeithasol wedi cymhwyso’n llawn. Maen nhw wedi’u hyfforddi i ddarparu cymorth a all helpu pobl i wneud newidiadau a datrys problemau personol a chymdeithasol.
Gall cymorth gynnwys gwaith arbenigol neu aml-asiantaeth, fel gwasanaethau gwybodaeth, cyngor a chymorth. Mae yna Dimau Dyletswydd Argyfwng, timau diogelu a gwasanaethau iechyd meddwl hefyd. Caiff y cymorth ei ddarparu yn y lleoliad y mae ei angen, felly gall gweithwyr cymdeithasol weithio mewn cartrefi, ysgolion, ysbytai neu mewn sefydliadau sector cyhoeddus, preifat neu wirfoddol eraill.
Er bod rôl gwasanaethau cymdeithasol yn gymhleth ac amrywiol, mae’n seiliedig ar ddarparu gofal a chymorth hanfodol. Maen nhw’n darparu llais i deuluoedd, plant, oedolion a gofalwyr, gan greu amgylchedd diogel ac iach sy’n hyrwyddo hawliau dynol a lles.
Sut mae cysylltu â Gwasanaethau Cymdeithasol?
Os ydych am gysylltu â’ch awdurdod lleol neu sefydliad nid er elw i ofyn am wasanaethau cymdeithasol yng Nghymru, mae gan wefan GIG 111 Cymru gyfleuster cyfleus i chwilio am wasanaethau lleol. Nodwch eich tref, dinas neu god post i ddod o hyd i’ch gwasanaethau lleol.
Fel arall, mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) yn darparu dolenni a manylion cyswllt ar gyfer holl awdurdodau lleol Cymru.
Dod o hyd i swyddi Gwasanaethau Cymdeithasol
Gall gweithwyr cymdeithasol sydd newydd gymhwyso neu brofiadol ddechrau chwilio am swyddi ar wefan GofalwnCymru.
- Porwch ac ymgeisiwch am swyddi gwasanaethau cymdeithasol drwy borth swyddi Gofalwn Cymru.
- Cymerwch gip ar wefannau a manylion cyswllt cyflogwyr gwasanaethau cymdeithasol yn ein cronfa ddata o swyddi.
Gallech gysylltu â’ch awdurdod lleol i holi am swyddi. Mae yna sawl math o swydd ar gael ym maes gwasanaethau cymdeithasol, fel gweithiwr cymdeithasol, cynghorydd pobl ifanc, a chynorthwyydd gwasanaethau cymdeithasol.
A ddylwn i fod yn Weithiwr Cymdeithasol?
Mae mynd i faes gwaith cymdeithasol yn ddewis gyrfa gwerth chweil ac mae’n bosibl cael cyflog da, ond dydy e ddim yn llwybr hawdd i’w gymryd. Bydd angen sgiliau cyfathrebu rhagorol arnoch chi a bydd angen i chi fod yn wydn i wynebu heriau bob dydd y swydd. Bydd angen i chi fod yn ddigon galluog i allu dysgu am y gyfraith, polisi a theori gwaith cymdeithasol wrth ennill eich cymwysterau. Os oes gennych y nodweddion hyn a bod gennych angerdd am hyrwyddo lles a gwella canlyniadau i bobl, gall gyrfa ym maes gwasanaethau cymdeithasol fod yn addas i chi.
Gall hyn swnio’n frawychus neu dagu diddordeb rhywun os nad ydych chi’n berson academaidd, ond os ydych chi’n frwdfrydig ac yn awyddus i ofalu am eraill, gallwch fod yn weithiwr cymdeithasol gwych. Enghraifft berffaith o hyn yw Amy o Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Gadawodd yr ysgol heb unrhyw gymwysterau, ond cymhwysodd fel gweithiwr cymdeithasol yn 33 oed ar ôl bod yn ofalwr maeth a gweithio mewn canolfan alwadau. Mae nawr yn gweithio mewn swydd sy’n wahanol bob dydd, ac mae’n cael boddhad o feithrin perthynas ag eraill a grymuso teuluoedd.
Gwylio’r astudiaeth achos – Amy, Gweithiwr Cymdeithasol.
I gael rhagor o wybodaeth am sut i gymhwyso a hyfforddi, mae gwefan Gofal Cymdeithasol Cymru’n cynnwys yr holl wybodaeth angenrheidiol i gychwyn arni yn y proffesiwn cyffrous, gwerth chweil a heriol hwn. Mae gwybodaeth am ariannu graddau gwaith cymdeithasol yng Nghymru ar gael hefyd.
Roles within Gwasanaethau Cymdeithasol
Gweithiwr Cymdeithasol
Fel Gweithiwr Cymdeithasol, eich nod chi fydd gwella bywydau pobl rydych chi’n gweithio gyda nhw. Byddwch chi’n cefnogi pobl drwy anawsterau cymdeithasol a phersonol, ar yr un pryd â hyrwyddo eu hawliau dynol a’u lles.
Rheolwr Tîm Gwaith Cymdeithasol
Fel Rheolwr Tîm Gwaith Cymdeithasol, byddwch yn gyfrifol am reoli tîm gwaith cymdeithasol o ddydd i ddydd.
Ymarferydd Gwasanaethau Cymdeithasol
Fel Cynorthwyydd Gwasanaethau Cymdeithasol, byddwch yn gweithio mewn partneriaeth â gweithwyr proffesiynol ac asiantaethau eraill i hyrwyddo canlyniadau sy’n canolbwyntio ar y person i unigolion ag anghenion gofal a chymorth ac mewn cymunedau. Enw arall ar y swydd hon yw ‘Ymarferydd Gwasanaethau Cymdeithasol’.
Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol
Fel Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol, byddwch yn gyfrifol am y gwasanaeth, gan ddarparu arweinyddiaeth a chyfeiriad strategol. Byddwch yn sicrhau darpariaeth gwasanaeth o ansawdd uchel ar gyfer plant, teuluoedd a phobl hŷn.
Pennaeth Gwasanaethau Oedolion
Fel y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion, byddwch yn pennu cyfeiriad, amcanion a nodau strategol, gan sicrhau asesu proffesiynol o ansawdd uchel, cynllunio gofal a darpariaeth gwasanaeth ar gyfer oedolion a phobl hŷn.
Gweithiwr Iechyd Meddwl Proffesiynol Cymeradwy
Mae Gweithiwr Iechyd Meddwl Proffesiynol Cymeradwy yn cyflawni swyddogaethau a dyletswyddau arbenigol ar ran awdurdodau lleol, o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl. Un o brif swyddogaethau Gweithiwr Iechyd Meddwl Proffesiynol Cymeradwy yw cydlynu asesiadau’r Ddeddf Iechyd Meddwl ar gyfer pobl a allai fod angen cael eu derbyn i’r ysbyty oherwydd anhwylder meddyliol difrifol a allai […]
Swyddi gwag mewn gofal
Mae Cymru angen mwy o weithiwyr gofal cymdeithasol.
Mae llawer o bobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol wedi neidio o swyddi fel lletygarwch neu fanwerthu. Defnyddiwch eich sgiliau trosglwyddadwy a gwnewch gais nawr.