fbpx
Skip to main content

Gwasanaethau Gofal Cartref


Wrth i’n poblogaeth heneiddio, mae gofal cartref yn dod yn hanfodol i bobl ledled Cymru. Ond beth yw gofal cartref yn union a pham ei fod mor bwysig? Rydym yn trafod beth yw gofal cartref ac yn rhoi cyngor ar sut i ddod o hyd i ddarparwr yn eich ardal chi. Rydym hefyd wedi rhoi cipolwg ar waith yn y maes, ac wedi cynnwys rhai dolenni i’ch helpu chi i ddod o hyd i swyddi gofal cartref.

 

Beth yw Gofal Cartref?

Mae’r gwasanaethau hyn yn darparu gofal a chymorth hanfodol i bobl sy’n byw yn eu cartrefi eu hunain. Mae’r cymorth yn cael ei drefnu ar sail anghenion a rwtîn pobl i’w helpu i aros yn eu cartref mewn ffordd ddiogel gyda chefnogaeth.

Bydd gofalwr cartref yn darparu gwasanaethau amrywiol i’r bobl dan eu gofal. Mae hyn yn cynnwys helpu gyda gofal personol, fel ymolchi a gwisgo. Gallant helpu o amgylch y tŷ gyda thasgau fel glanhau a golchi dillad hefyd. Yn ogystal, gallant helpu drwy goginio yn y cartref neu ddanfon prydau, a chyflawni tasgau amrywiol fel llenwi ffurflenni a thalu biliau ar amser. Gellir cyflawni rhai gwasanaethau gofal iechyd yn y cartref lle bo’n briodol.

Helpu pobl i gadw mewn cysylltiad â’u cymunedau yw un o agweddau pwysicaf y gwasanaeth hwn. Gan fod gofal cartref yn galluogi pobl i barhau i wneud y pethau sydd bwysicaf iddyn nhw tra’n cadw mewn cysylltiad â’u ffrindiau a’u teuluoedd, mae mwy a mwy o bobl yn dewis defnyddio gwasanaethau gofal cartref i gael y gofal sydd ei angen arnyn nhw.

 

Dod o hyd i Wasanaethau Gofal Cartref

Mae gwasanaethau gofal cartref yn darparu staff cymwysedig, proffesiynol i gynnal ymweliadau cartref ledled Cymru. Mae’r gwasanaethau hyn yn addas i bob math o bobl, fel pobl hŷn, pobl â salwch difrifol, pobl sy’n gwella ar ôl cael llawdriniaeth, neu bobl ag anableddau. Gellir ystyried y gwasanaeth hwn fel dewis arall yn lle cartref gofal, ac er eu bod yn debyg o ran sut maen nhw’n  cefnogi pobl i fyw eu bywyd fel y dymunant, gall y model gofal dydd i nos sy’n cael ei ddarparu gan gartrefi gofal fod yn fwy addas. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am gartrefi gofal ar ein tudalen wybodaeth bwrpasol.

 

Os nad ydych chi’n siŵr ble i ddechrau chwilio am y darparwr priodol gall ein cronfa ddata o ddarparwyr gwasanaethau gofal cartref ledled Cymru eich helpu. Gallwch hidlo’r canlyniadau i ddod i hyd i wasanaethau yn eich ardal chi, cael mwy o wybodaeth amdanynt ar eu gwefannau a chysylltu â nhw i sicrhau eu bod yn gallu diwallu’ch anghenion.

 

Pwy sy’n rheoleiddio Gwasanaethau Gofal Cartref?

Mae darparwyr gwasanaethau gofal cartref yn cael eu rheoleiddio yng Nghymru gan Arolygiaeth Gofal Cymru o dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 a ddaeth i rym ar 2 Ebrill 2018. I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Arolygiaeth Gofal Cymru.

Mae pob rheolwr a gweithiwr sy’n darparu Gwasanaethau Gofal Cartref wedi’u cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru. Gallwch wneud cais i gofrestru neu chwilio’r gofrestr ar-lein ar wefan Gofal Cymdeithasol Cymru.

 

Gweithio ym maes Gofal Cartref

Os hoffech chwilio am swyddi gyda darparwyr gofal cartref yn agos atoch chi, mae porth Swyddi GofalwnCymru yn cynnwys y cyfleoedd diweddaraf.

Mae yna sawl rôl ym maes gwasanaethau gofal cartref, yn amrywio o gweithwyr cymorth gofal cartref, i gydgysylltwyr gwasanaethau a rheolwyr. Mae ehangder y swyddi sydd ar gael yn ei wneud yn addas i’r rhai sy’n chwilio am brofiad, a phobl sydd â phrofiad a chymwysterau eisoes.

Gall gweithio mewn gwasanaethau gofal cartref fod yn heriol. Gall fod yn amrywiol, boddhaol a hyblyg hefyd. Dyma Jennifer, a newidiodd yrfa ar ôl 17 o flynyddoedd i weithio ym maes gofal cartref, i roi rhywfaint o gipolwg i ni ar ei swydd. Mae’n trafod pynciau fel amrywiaeth ei swydd, y cyfle i ddefnyddio ei sgiliau Cymraeg, a sut mae’n teimlo am newid gyrfa.

Am ragor o wybodaeth, gwyliwch fideo Jackie ar Gofal yn Galw: Gyrfa i chi? i ddysgu mwy am yrfa ym maes gofal cartref.

 

Logo Gofal yn Galw

Roles within Gwasanaethau Gofal Cartref

Gweithiwr Cymorth Gofal Cartref


Fel Gweithiwr Cymorth Gofal Cartref, byddwch yn darparu gofal a chymorth i oedolion, plant a phobl ifanc yn eu cartref eu hunain.

About this role

Uwch Weithiwr Gofal Cartref


Fel Goruchwyliwr/ Uwch Weithiwr Gofal Cartref, byddwch yn darparu gofal a chymorth i oedolion, plant a phobl ifanc yn eu cartref eu hunain.  

About this role

Cydgysylltydd Gwasanaethau Gofal Cartref


Fel Cydgysylltydd Gwasanaethau Gofal Cartref, byddwch yn cydlynu gwaith tîm o Weithwyr Gofal Cartref ac Uwch Weithwyr Gofal Cartref.

About this role

Dirprwy Reolwr Gofal Cartref


Fel Dirprwy Reolwr Gofal Cartref, byddwch yn helpu Rheolwr y gwasanaeth i wneud yn siŵr ei fod yn rhedeg yn effeithiol.  

About this role

Rheolwr Gofal Cartref


Fel Rheolwr Gofal Cartref, byddwch yn pennu’r cyfeiriad gweithredol ac yn trefnu’r gwaith o redeg y gwasanaeth yn effeithiol.

About this role

Swyddi gwag mewn gofal

Mae Cymru angen mwy o weithiwyr gofal cymdeithasol.

Mae llawer o bobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol wedi neidio o swyddi fel lletygarwch neu fanwerthu. Defnyddiwch eich sgiliau trosglwyddadwy a gwnewch gais nawr.

Search for jobs