Meithrinfeydd Dydd a Chyfleusterau Crèche
Mae meithrinfeydd dydd o bob math yn darparu gwasanaeth hanfodol i rieni sy'n gweithio trwy gynnig gofal plant i blant o'u genedigaeth. Fe welwch ragor o wybodaeth am yr hyn maen nhw'n ei wneud a chyngor ar sut i ddod o hyd i swydd mewn meithrinfa ar y dudalen hon.
Beth yw meithrinfa?
Mae’r termau meithrinfa ddydd, gofal dydd a crèche yn cael eu defnyddio i ddisgrifio'r mannau lle mae rhieni'n anfon eu plant i gael gofal yn ystod oriau gwaith yn ystod y dydd. Mae oedrannau'r plant sy'n mynd i feithrinfa yn amrywio o ddim ond chwe wythnos oed i fyny.
Gall meithrinfeydd gael eu rhedeg gan awdurdodau lleol neu gymunedau lleol, neu gellir eu rhedeg yn breifat. Maent yn cynnig amgylchedd diogel i gefnogi plant wrth iddyn nhw chwarae, dysgu a datblygu. Maent yn gallu helpu i ddatblygu sgiliau synhwyraidd ac archwilio mewn babanod. I blant bach, mae ffocws ar chwarae yn helpu i ddatblygu sgiliau cymdeithasol a chreadigol. Gall crèche hefyd gynnig ateb dros dro i ddarparu gofal plant er mwyn galluogi rhieni i fynd i ddigwyddiadau penodol fel hyfforddiant, dysgu neu hyd yn oed ddosbarthiadau ymarfer corff.
Mae'n ofynnol i ddarparwyr meithrinfeydd yng Nghymru fodloni'r safonau gofynnol a nodwyd ac a orfodir gan Arolygiaeth Gofal Cymru.
Dod o hyd i swydd mewn Meithrinfa
Os ydych chi'n barod i ddod o hyd i'ch rôl nesaf ar unwaith, gallwch ddechrau yma trwy bori trwy'r swyddi gwag a restrir ar ein gwefan.
- Pori a gwneud cais am swydd mewn meithrifna trwy borth swyddi Gofalwn Cymru.
- Gweld gwefannau a manylion cyswllt cyflogwr blynyddoedd cynnar yn ein cronfa ddata o swyddi.
Mae gweithio mewn meithrinfa yn ddewis gwych i unrhyw un sydd â diddordeb mewn datblygiad plant trwy chwarae a dysgu. Rydym ni wedi gwneud fideo i danlinellu pa mor bwysig yw rôl y gweithwyr hyn yn helpu plant i gyrraedd eu potensial.
Gall gweithio yn y blynyddoedd cynnar fod yn yrfa hir sy’n rhoi llawer o foddhad. Fe welwch rolau swydd o ymarferydd cynorthwyol, i ymarferydd uwch a'r holl ffordd i fyny i reolwr yn y maes hwn. Mae Jane yn rhoi darlun gwych inni o’r yrfa 33 mlynedd y mae wedi’i gael yn gweithio gyda’r blynyddoedd cynnar, lle mae'n pwysleisio pa mor arbennig a gwerth chweil yw’r gwaith. Gallwch wylio fideo Jane yma
Os ydych chi am gymryd eich cam cyntaf i weithio mewn meithrinfa ddydd, mae NDNA Cymru yn darparu cefnogaeth, gwybodaeth a hyfforddiant:
Mae Blynyddoedd Cynnar Cymru yn darparu cefnogaeth ac arweiniad ar eu gwefan i aelodau ac unigolion sydd â diddordeb yn y sector gofal plant, yn gyflogedig neu'n gwirfoddoli:
Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am y modd mae Clybiau Plant Cymru yn helpu cymunedau yng Nghymru trwy hyrwyddo, datblygu a chefnogi clybiau buddiol, fforddiadwy a hygyrch ar gyfer gofal plant y tu allan i’r ysgol ar eu gwefan:
Mae Mudiad Meithrin hefyd yn cynnig cefnogaeth ar gyfer hyfforddi ar eu gwefan:
Rydym hefyd yn argymell eich bod yn gwylio fideo Ahmed Gofal yn Galw: Gyrfa i chi? i ddarganfod sut brofiad yw gweithio a chael gyrfa mewn meithrinfa neu crèche.
Roles within Meithrinfeydd Dydd a Chyfleusterau Crèche
Swyddi gwag mewn gofal
Mae Cymru angen mwy o weithiwyr gofal cymdeithasol.
Mae llawer o bobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol wedi neidio o swyddi fel lletygarwch neu fanwerthu. Defnyddiwch eich sgiliau trosglwyddadwy a gwnewch gais nawr.