Sesiwn llesiant ariannol i gyflogwyr
4 October 2023
Sesiwn wybodaeth am lesiant ariannol fel rhan o wythnos ‘Siarad am Arian’.
Mae’r digwyddiad hwn ar gyfer:
- cyflogwyr gweithwyr cofrestredig ym maes gofal cymdeithasol i oedolion, gan gynnwys Unigolion Cyfrifol a rheolwyr cofrestredig
Bydd y sesiwn yn cael ei chynnal gan Rhian Hughes o’r Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS).
Mae’n gyfle i chi ddysgu:
- beth yw llesiant ariannol, a pham mae’n bwysig
- pam mae llesiant ariannol yn bwysig i’n busnesau a’n staff
- beth yw MaPS, a sut y gall helpu
- am MoneyHelper/HelpwrArian
- pa arweiniad am ddim ar arian a phensiynau sydd ar gael i chi
- bod offer ac adnoddau ar gael i’ch cefnogi chi a’ch staff
- pa gymorth arall sydd ar gael yng Nghymru
Bydd cyfle hefyd i chi ofyn cwestiynau i Rhian am lesiant ariannol.
Os ydych chi wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithsaol Cymru, bydd y sesiwn hon yn cyfrannu at awr o’ch datblygiad proffesiynol parhaus (DPP).