Sut gall Gofalwn Cymru eich helpu chi
23 August 2021
Beth yw Gofalwn Cymru?
Gofalwn Cymru yw’r rhaglen denu, recriwtio a chadw genedlaethol ar gyfer gofal cymdeithasol a’r blynyddoedd cynnar. Ei nod yw codi proffil y sectorau a chefnogi recriwtio a chadw staff yn y gweithlu gofal.
Straeon go iawn
Crëwyd mwy na 50 fideo o weithwyr gofal proffesiynol i dynnu sylw at werth gweithio ym maes gofal. Mae astudiaethau achos o Weithwyr Cymdeithasol, Gweithwyr Gofal Cartref, Rheolwyr Meithrinfeydd, Gwarchodwyr Plant a llawer mwy yn dangos yr holl gyfleoedd amrywiol sydd ar gael ym maes gofal:
Cysylltwch â ni os ydych chi’n adnabod rhywun sydd â stori wych i’w rhannu.
Porthol Swyddi Gofalwn Cymru
Mae Porthol Swyddi Gofalwn Cymru yn adnodd ar-lein am ddim sy’n hysbysebu swyddi ym maes gofal. Gall ceiswyr gwaith ddod o hyd i swyddi gofal gwag yn eu hardal.
Gofal yn Galw
Anogir ceiswyr gwaith i roi cynnig ar gwis ‘Gofal yn Galw: Gyrfa i CHI?‘ Adnodd dysgu ar-lein seiliedig ar werthoedd yw hwn lle gall pobl gael blas ar sut beth yw gweithio ym maes gofal. Unwaith y bydd dwy o’r heriau wedi’u cwblhau, cynhyrchir adroddiad personol ar ba mor dda y mae gwerthoedd yr unigolion yn gweddu i weithio ym maes gofal.
Beth am ddefnyddio’r adnodd hwn fel rhan o ymarfer recriwtio ar sail gwerthoedd?

Cyflwyniad i Hyfforddiant Gofal Cymdeithasol
Mae’r rhaglen hyfforddi hon, sydd wedi’i threialu ar draws y De-orllewin, yn helpu ceiswyr gwaith i gael blas ar weithio ym maes gofal ac yn darparu dysgu sylfaenol i’w helpu wrth iddynt ddechrau eu gyrfa ym maes gofal. Mae’r rhaglen hyfforddi hon ar gael ledled Cymru erbyn hyn.
Cyflwyniad i Hyfforddiant Gofal Cymdeithasol
Sut i gael gafael ar adnoddau a chymorth
Mae gan wefan Gofalwn Cymru wybodaeth am weithio gyda phlant ac oedolion yng Nghymru. Gall pobl ddysgu am y rolau sydd ar gael a gwylio fideos o brofiadau pobl go iawn sy’n gweithio yn y rolau hyn.
Mae’r wefan yn cynnwys pecyn cymorth i randdeiliaid hefyd gyda deunyddiau parod i’w defnyddio. Defnyddiwch y deunyddiau ar eich gwefan i helpu i arddangos byd gofal ac arwain pobl at y cyfoeth o wybodaeth sydd ar gael.
I weld y pecyn cymorth i randdeiliaid ewch i:
www.Gofalwn.cymru/pecyn-cymorth-rhanddeiliaid
Enw defnyddiwr: Stakeholders
Cyfrinair: Toolkit_WeCare!
Llysgenhadon Gofalwn Cymru
Mae Llysgenhadon Gofawl Cymru yn unigolion sy’n gweithio yn y sector ar hyn o bryd. Maent yn dod â gweithio ym maes gofal yn fyw i ddisgyblion mewn ysgolion, colegau a digwyddiadau gyrfaoedd ledled Cymru trwy rannu eu stori.
Cysylltwch â ni os ydych chi’n adnabod rhywun a hoffai fod yn Llysgennad Gofalwn Cymru!