Sut mae meithrinfa ar dir ysbyty yng Nghymru wedi bod yn darparu gofal plant yn ystod pandemig Covid-19
Mae meithrinfeydd gofal dydd o amgylch Cymru yn paratoi i ailagor o’r wythnos nesaf ymlaen. Un o’r ychydig leoliadau gofal plant yng Nghymru sydd wedi bod ar agor trwy pandemig Covid-19 yw Meithrinfa Ddydd Funtazia, wedi’i lleoli ar dir Ysbyty’r Tywysog Siarl, Merthyr Tudful. Mae’r feithrinfa wedi bod yn darparu gwasanaeth gofal plant amhrisiadwy i weithwyr allweddol a phlant bregus yn ystod y pandemig.
Mae Nichola Cronin, un o’r perchnogion, wedi bod yn rhedeg y feithrinfa ers dros 15 mlynedd ac nid yw erioed wedi profi unrhyw beth fel hyn o’r blaen: “Mae’r rhain wedi bod ac yn parhau i fod yn amseroedd heriol ac anodd.
“Bu’n rhaid i ni addasu a rhoi mesurau pellhau cymdeithasol newydd ar waith.
“Mae’r plant wedi bod yn brysur yn addurno tu blaen y feithrinfa lle mae staff y GIG yn cerdded heibio bob dydd. Mae’r arddangosfa ffenestr wedi derbyn llawer o ganmoliaeth gan staff yr ysbyty ac ymwelwyr.
“Rydyn ni’n caru’r hyn rydyn ni’n ei wneud, rydyn ni wrth ein bodd yn gweithio gyda’r plant a’u gwylio nhw’n tyfu. Bydd Funtazia yn goroesi’r amseroedd anodd hyn, oherwydd mae gennym ni gefnogaeth ein staff a’n rhieni gwych.”
Mae’r tîm wedi derbyn negeseuon di-ri o ddiolch gan rieni a’r gymuned, gan ddangos eu diolch am y gwaith anhygoel y maent wedi bod yn ei wneud dros yr ychydig fisoedd diwethaf.