Swyddi Gofalwn Cymru
Cyflogwyr gofal cymdeithasol, rydym eisiau helpu ymdrin â’r prinder staff y gallech fod yn ei wynebu ar hyn o bryd.
Nawr yn fwy nag erioed, mae angen pobl i roi gofal a chymorth i’r rheini sydd fwyaf bregus yn ein cymunedau.
Er mwyn eich helpu i ddod o hyd i’r bobl iawn i lenwi eich swyddi gwag a chefnogi eich busnes, rydym yn creu porthol swyddi a fydd yn rhestru swyddi gofal cymdeithasol presennol yng Nghymru.
Er mwyn i hyn ddigwydd, mae angen i chi gyhoeddi eich swyddi gwag ar Twitter o’ch sianeli chi, gan gynnwys y manylion canlynol:
- Teitl y swydd
- Awrdurdod lleol (os yw’r rôl yn cwmpasu mwy nag un awdurdod, rhestrwch nhw)
- Disgrifiad byr o’r rôl
- Rhaid iddo gynnwys hashnod: #SwyddiGofalwnCymru
Mwy o erthyglau newyddion
Dewch o hyd i swydd mewn gofal plant
Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein bwrdd swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.