37 awr Tŷ Catrin, Uned 1, Ystad Ddiwydiannol Hen Lofa'r Maritime, CF37 1NY Mae Maethu Cymru RhCT yn chwilio am
Flaen Weithiwr Cymdeithasol i ymuno â'n Carfan Cymorth Prif Ffrwd – carfan sy'n sefydlog, yn gefnogol, ac yn ymroddedig i roi'r arweiniad sydd ei angen ar rieni maeth i ddarparu cartrefi diogel a chariadus i blant.
Mae rôl y Blaen Weithiwr Cymdeithasol yn hanfodol i gynnal cysondeb a sicrhau bod ein rhieni maeth a'n carfan yn derbyn y cymorth y maen nhw'n ei haeddu.
Mae ein gwasanaeth maethu yn chwarae rhan hanfodol wrth helpu plant i brofi sefydlogrwydd, diogelwch a bywyd teuluol cadarnhaol. Heb arweinyddiaeth gref ac ymarferwyr medrus, rydyn ni mewn perygl o gael oedi mewn asesiadau, bylchau mewn cymorth, a tharfu ar blant a rhieni maeth. Bydd eich arbenigedd chi yn ein helpu ni i atal hyn a chadw plant wrth wraidd popeth rydyn ni'n ei wneud.
A chithau'n Flaen Weithiwr Cymdeithasol, byddwch chi'n allweddol wrth lywio ansawdd a sefydlogrwydd ein gwasanaeth. Byddwch chi'n:
- Rhoi cyngor ac arweiniad arbenigol i rieni maeth a chydweithwyr.
- Rhoi cymorth i Reolwr y Garfan i gynnal safonau uchel a chysondeb.
- Arwain ar asesiadau cymhleth, gan sicrhau manylder a chywirdeb ar gyfer cynllunio parhaol.
- Hyrwyddo ymarfer sy'n ystyriol o drawma ac sy'n canolbwyntio ar sefydlogrwydd.
- Mentora ac ysbrydoli eraill, gan hyrwyddo arferion gorau ar draws y garfan.
Dyma rôl lle byddwch chi'n gwneud gwir wahaniaeth – i'r garfan ac i fywydau plant a theuluoedd ledled Rhondda Cynon Taf.
Rydyn ni'n chwilio am unigolyn:
- Sy'n Weithiwr Cymdeithasol cymwys sydd wedi cofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru;
- Sydd ag o leiaf 3 blynedd o brofiad ôl-gymhwyso ym meysydd maethu neu wasanaethau i blant;
- Sy’n deall ymarfer sy'n ystyriol o drawma ac ymarfer sy'n seiliedig ar berthnasoedd;
- Sy'n gallu arwain ac ysbrydoli eraill, gan gadw plant wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau;
- Sydd â sgiliau cyfathrebu rhagorol a dull o weithio ar y cyd.
Byddwch chi'n rheoli llwyth achosion cymhleth wrth gydbwyso cyfrifoldebau arweinyddiaeth, gan gynnwys dirprwyo ar ran Rheolwr y Garfan pan fo angen. Byddwch chi hefyd yn chwarae rhan allweddol wrth ddatblygu arferion gorau, cynnal sesiynau i gydweithwyr a mentora cydweithwyr. Rydyn ni'n cynnig:
- Goruchwyliaeth broffesiynol reolaidd bob chwe wythnos;
- Cyfleoedd ar gyfer datblygu sy'n cyd-fynd â blaenoriaethau'r Awdurdod Lleol a Maethu Cymru;
- Rheolwyr cadarn a phrofiadol sy'n cynnig cymorth ar lefelau strategol a gweithredol;
- Trefniadau gweithio hyblyg a mynediad at gymorth lles;
- Y cyfle i ddylanwadu ar ddyfodol maethu yn Rhondda Cynon Taf.
Rydyn ni’n cydnabod bod maes gwaith cymdeithasol yn un heriol yn broffesiynol ac yn bersonol a'i fod yn gofyn am sgiliau, ymrwymiad a brwdfrydedd sylweddol. Mae gyda ni ganolfan Addysg a Datblygu fewnol, bwrpasol sy'n rhoi cymorth ymarferol ar bob lefel i ymarferwyr gynnal eu sgiliau a'u Datblygiad Proffesiynol Parhaus.
O'ch penodi, byddwch chi'n elwa ar lwybr gyrfa gwell ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes Gwaith Cymdeithasol, a phecyn buddion, sy'n cynnwys gweithio hyblyg, pris gostyngol ar gyfer aelodaeth Hamdden am Oes a chyfle i fanteisio ar y cynlluniau prynu sef 'Beicio i'r Gwaith' a 'Let's Connect'.
Rydyn ni'n disgwyl i'n hymarferwyr feddu ar ddealltwriaeth gadarn o oblygiadau gweithredol Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, Maethu a deddfwriaeth ac arferion da perthnasol eraill. Rhaid ichi fod yn effro i'r wybodaeth ddiweddaraf am faterion newydd a rhaid ichi fod wedi gweithio yn y maes perthnasol, neu feddu ar ddiddordeb mewn gwneud hynny. Byddwch chi wedi'ch ymroi i ymarfer nad yw'n ormesol, a bydd gyda chi sgiliau asesu, cyfathrebu a chynllunio cadarn.
Am ragor o wybodaeth a thrafodaeth anffurfiol, cysylltwch â Leanne Day (Rheolwr y Garfan) ar 07747 485765 neu Gemma Higgon-Young (Rheolwr y Gwasanaeth) ar 07384456966.
Buddion gweithio i Gyngor Rhondda Cynon Taf:
- Trefniadau Gweithio Hyblyg (gan ddibynnu ar y swydd)
- Cyfleoedd datblygu gyrfa ardderchog
- Cynllun pensiwn arbennig gyda chyfraniadau gan y cyflogwr
- Cymorth a chyngor iechyd galwedigaethol
- Cynllun buddion i staff
- Gostyngiadau siopa gyda cherdyn Vivup
Mae diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn gyfrifoldeb craidd i bob un o'r gweithwyr sy'n cael eu penodi gan y Cyngor.
Yn ogystal âr cyfrifoldeb yma mewn perthynas â diogelu, bydd y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd hefyd yn ymchwilio'n fanwl i gefndir yr ymgeisydd llwyddiannus. Mae'r Cyngor yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.
Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.
Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os dydych chi ddim wedi clywed wrthon ni cyn pen pedair wythnos o'r dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.
Er mwyn cefnogi addewid gwirfoddol y Cyngor i gefnogi'r Lluoedd Arfog, rhaid i’r sawl sy'n penodi sicrhau bod ymgeiswyr sydd wedi datgan eu bod nhw'n aelodau o’r Lluoedd Arfog, gan gynnwys y rheiny sydd wedi gadael y lluoedd, cyn-filwyr neu filwyr wrth gefn sy’n diwallu'r meini prawf hanfodol yn y fanyleb person, yn cael cynnig cyfweliad.