Cydlynydd Busnes: Yr Adain Gwybodaeth Rheoli, Perfformiad a Chynllunio
Dyddiad cau 14/10/2024
Cyflogwr
Conwy County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Lleoliad
Conwy
Pob ardal
Manylion
Math o gontract
Parhaol
Disgrifiad o'r swydd
Lleoliad gwaith: Coed Pella / Gweithio Hybrid
Rydym yn un o'r cyflogwyr mwyaf yn yr ardal a dymunwn ichi ymuno â'n tîm clos, cyfeillgar i arwain y gwaith o ddatblygu mentrau sy'n ein galluogi i ddarparu gwasanaethau cefnogi i bobl Conwy ac er lles cymunedau.
Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am reoli timau'r Adain Gwybodaeth Rheoli Gofal Cymdeithasol ac Addysg gan sicrhau bod lefel uchel o wasanaeth yn cael ei ddarparu yn fewnol ac yn allanol i ysgolion.
Byddwch yn greadigol, yn rhagweithiol, yn flaengar a chyda'r gallu i greu syniadau.
Rydym yn hyrwyddo ac yn deall pwysigrwydd cydbwysedd cadarnhaol ac iach rhwng gwaith a bywyd, a gallwn gynnig amryw o drefniadau gweithio'n hyblyg, gan gynnwys dull cyfunol o weithio gartref ac mewn adeilad swyddfa o'r radd flaenaf ym Mae Colwyn, gellir trafod y rhain yn y cyfweliad.
Byddwch yn elwa ar becyn buddion sylweddol, gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, Tâl Salwch Galwedigaethol a buddion staff, yn cynnwys ceir aberthu cyflog, Beicio i'r Gwaith, gofal iechyd arian-yn-ôl, gostyngiadau a llawer mwy.
Os yw'r swydd a'r lleoliad at eich dant chi, cliciwch i wneud cais rŵan.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu - bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu gwirio.
Mae'r rôl hon yn cynnig opsiynau gweithio hyblyg ar gyfer cydbwysedd bywyd a gwaith. Gall hyn gynnwys addasu eich diwrnod gwaith a gweithio hybrid, hy cydbwysedd rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Andrew Nixon, Rheolwr Adain - Cymorth Busnes a Gweinyddu, 01492 575587 Andrew.nixon1@conwy.gov.uk
Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o'n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd.
Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a'ch annog i ddefnyddio'ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Mae Conwy wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac rydym yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Rydym yn darparu opsiwn i bobl anabl wneud cais mewn gwahanol fformatau. Cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 i gael cyngor pellach.
This form is also available in English.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr