Ynglŷn â'r swydd wag Cyfeirnod y Swydd Wag: 875
Sefydliad: Cyngor Sir Caerfyrddin
Adran: Cymorth Busnes Is-adrannol
Nifer y swyddi gwag: 1
Math o gontract: Parhaol Amser Llawn
Lleoliad: Llanelli
Gradd: Gradd D
Cyflog: £24,790 - £25,584
Os yw'n rhan-amser a/neu yn ystod y tymor, bydd y cyflog llawn amser a ddyfynnir (yn seiliedig ar 37 awr) ar sail pro rata yn unol â hynny
Cyfradd yr awr: £12.85 - £13.26
Oriau Contract: 37
Dewch i ymuno â'n tîm A oes gennych sgiliau trefnu a gofal cwsmer rhagorol?
A oes gennych ddiddordeb mewn bod yn rhan o dîm sy'n helpu i gefnogi'r gwaith o ddarparu gwasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion allweddol i gymuned Sir Gaerfyrddin?
Os felly, mae hwn yn gyfle gwych i chi wneud cais am swydd Gweinyddwr Gofal Cymdeithasol.
Bydd deiliad y swydd yn gweithio fel rhan o dîm i sicrhau bod gwasanaethau gofal cymdeithasol o ansawdd uchel yn rhedeg yn ddidrafferth.
Byddwch yn ymgymryd ag ystod eang o ddyletswyddau cymorth busnes a gweinyddol o dan gyfarwyddyd Arweinydd Tîm Cymorth Gofal Cymdeithasol.
Rydym yn chwilio am rywun sydd â sgiliau trefnu, cyfathrebu a gofal cwsmeriaid rhagorol, gyda'r gallu i weithio'n gywir ac yn effeithlon o fewn terfynau amser tynn tra'n rhoi sylw i fanylion.
Rydym yn darparu cyfleoedd ar gyfer dysgu a datblygu sy'n briodol i'r rôl, a gallai'r swydd hon eich galluogi i ddatblygu gyrfa weinyddol lwyddiannus o fewn y Cyngor.
Yn unol â dull 'Un Tîm' y Cyngor, bydd angen i ymgeiswyr ddangos eu gallu i fod yn hyblyg a'u bod yn gallu addasu i newid.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Kerry Halpin 01267 228837 (Ebost: khalpin@sirgar.gov.uk).
Disgrifiad Swydd: Social Care Administrator (ASC) JP.pdf - 205KB ~~EFORM_FILE_NEW_WINDOW~~
Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad: Lefel 3 - Bydd angen ichi fod â lefel dda o Gymraeg llafar. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.
Dyddiad Cau: 04/12/2024, 23:55
Y Buddion Rydym yn cynnig pecyn buddion ardderchog, gan gynnwys:
- Cyflog cystadleuol
- Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
- Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
- Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff
- Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
- Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith
- Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd
Gwybodaeth Ychwanegol Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol. ">
Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli. Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work .
Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.
Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio' i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.
Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.