Gweithiwr Cymdeithasol Profiadol - Tîm Plant Sy'n Derbyn Gofal
Dyddiad cau 13/10/2024
Cyflogwr
Wrexham County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Lleoliad
Wrexham
Pob ardal
Manylion
Math o gontract
Parhaol
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Gwasanaethau Gwaith Cymdeithasol / Gwasanaethay Cymdeithasol
Rôl
Gweithiwr cymdeithasol
Disgrifiad o'r swydd
Disgrifiad
G10 £39,186 - £42,403 y flwyddyn
Os ydych yn weithiwr cymdeithasol profiadol, ymrwymedig, creadigol a gwydn, mae gennym gyfle cyffrous o fewn ein Tîm Plant sy'n Derbyn Gofal.
Rydym yn edrych am weithiwr cymdeithasol cymwys i gefnogi ein siwrnai wella barhaus tuag at arfer gorau, fel y dangoswyd o fewn ein harchwiliad cadarnhaol diweddar.
Rydym eisiau rhywun sydd wedi ymrwymo i gyflawni newid i blant a phobl ifanc. O fewn y Tim Plant sy'n Derbyn Gofal rydym yn cynnig llwythi achosion wedi'u diogelu. Mae hyn yn rhoi cyfle i staff Gofal Cymdeithasol weithio'n agos gyda theuluoedd a phlant i gael effaith ar newid. Pam ymuno â Thîn Derbyn Gofal fel Gweithiwr Cymdeithasol Plant?
Mae'r Tîm Plant sy'n Derbyn Gofal yn cynnwys cymysgedd o Weithwyr Cymdeithasol profiadol, gweithwyr cymdeithasol newydd a Gweithwyr Cefnogi Teulu sydd i gyd yn cyfrannu at yr amgylchedd tîm cefnogol a gofalgar. Buddion ychwanegol y byddwch yn eu derbyn fel Gweithiwr Cymdeithasol Plant:
Bydd angen i chi gael gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer y swydd hon.
Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn y Gymraeg a'r Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn y Saesneg.
Nid ydym yn noddwr trwyddedig â'r Swyddfa Gartref ar hyn o bryd, felly yn anffodus, ni allwn noddi ymgeisydd a fydd angen fisa i ymgymryd âr rôl hon.