Wrexham County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Lleoliad
Wrexham
Pob ardal
Manylion
Math o gontract
Parhaol
Maes gofal
Gofal cymdeithasol
Gweithle
Gwasanaethau Gwaith Cymdeithasol / Gwasanaethay Cymdeithasol
Rôl
Gweithiwr cymdeithasol
Disgrifiad o'r swydd
Disgrifiad
Gweithiwr Cymdeithasol - Tîm Cymorth i Deuluoedd
G09 £37,035 - £39,513 y flwyddyn
Ydych chi'n Weithiwr Cymdeithasol Cymwys sydd yn chwilio am her newydd i wella bywydau pobl - os ydi hyn yn apelio i chi, yna does dim rhaid edrych ymhellach!
Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam gyfle cyffrous o fewn ein tîm Cymorth i Deuluoedd fel gweithiwr cymdeithasol.
Rydym ni'n chwilio am unigolyn sydd yn ymrwymedig i ganlyniadau plant a phobl ifanc, sydd yn wrth-wahaniaethol ac yn wrthormesol ac a fydd y eirioli dros blant a phobl ifanc. Bydd angen i chi fod yn llawn cymhelliant a bydd gennych sgiliau asesu da. Os ydi hyn yn apelio i chi, yna fe garem glywed gennych chi.
Mae Wrecsam yn lle gwerth chweil i weithio, mae gennym oriau amrywiol ar gael, ac mae'r cyfan yn cael ei gynnig ar gontractau parhaol. Yn gyfnewid, byddwch yn derbyn cyflog cystadleuol sef £39,513 y flwyddyn, pensiwn awdurdod lleol deniadol, cyfle i ddatblygu i fod yn weithiwr cymdeithasol profiadol, ar yr amod eich bod yn cyrraedd meini prawf penodol, a chymelldaliad recriwtio o £2,996.
Pam ymuno â Thîm Cymorth i Deuluoedd fel Gweithiwr Cymdeithasol Plant?
Mae'r Tîm Cymorth i Deuluoedd yn darparu gwasanaethau amddiffyn plant statudol a gwasanaethau cymorth i deuluoedd i blant a theuluoedd sydd wedi cael eu hasesu a'u bod angen gwasanaethau i fodloni anghenion plant diamddiffyn, er mwyn hyrwyddo eu lles emosiynol, corfforol a chymdeithasol. Mae'r tîm hefyd yn darparu gwasanaethau i blant sydd yn derbyn gofal, gan ddilyn gweithdrefnau i gychwyn ar achosion gofal yn y llysoedd teulu, a'r rhai sydd yn mynd drwy achosion cyfreithiol preifat.
Rydym yn cynnal ciniawau a digwyddiadau dathlu aelodau'm yn rheolaidd, o benblwyddi i seibiant mamolaeth a dyrchafiadau staff. Rydym yn cynnal cyfarfodydd tîm, goruchwyliaeth a thrafodaethau anffurfiol pwysig iawn yn rheolaidd. Mae'r rhain yn galluogi staff i ymlacio a chefnogi ei gilydd yn emosiynol drwy siarad am unrhyw achosion anodd y maent yn dod ar eu traws. Rydym yn cydnabod bod iechyd, diogelwch a lles o ansawdd dda yn rhan annatod o gydbwysedd bywyd-gwaith iach ac rydym yn falch o greu amgylchedd cadarnhaol lle gall Gweithwyr Cymdeithasol gyflawni canlyniadau ystyriol ac sy'n cael effaith.
Buddion ychwanegol y byddwch yn eu derbyn fel Gweithiwr Cymdeithasol Plant
•Hyd at 32 diwrnod o wyliau blynyddol y flwyddyn
Mae angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestriad Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer y swydd hon.
Mae'r Cyngor yn ymrwymedig i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg.