Mae hwn yn gyfle cyffrous i Weithiwr Cymdeithasol ymuno â'r Un Pwynt Mynediad i Oedolion.
Mae Un Pwynt Mynediad i Oedolion yn cael pob cyswllt ac atgyfeiriad newydd ar gyfer dinasyddion 18+ o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn darparu'r fframwaith deddfwriaethol mewn perthynas â darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth a nodi anghenion gofal a chymorth oedolion. Mae Un Pwynt Mynediad i Oedolion yn hanfodol o ran sicrhau fod Oedolion yn cael eu cefnogi i gyflawni eu canlyniadau lles drwy sgyrsiau'n seiliedig ar ganlyniadau, darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth; a/neu nodi p'un a oes angen asesu anghenion gofal a chymorth ymhellach.
Bydd ffocws ar ddatblygiad ar gyfer y tîm hwn, dros y misoedd nesaf, i sicrhau bod rhwydweithiau cryf yn cael eu creu gyda thimau statudol a chymunedol eraill o fewn y trydydd sector; gan fod gweithio aml-asiantaeth yn hanfodol ar gyfer asesiadau a gwblhawyd gan yr Un Pwynt Mynediad i Oedolion. ">Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio ochr yn ochr â thîm o Gynghorwyr Cyswllt Cyntaf, Aseswyr Gofal Cymdeithasol, Gweithwyr Cymdeithasol, a Therapydd Galwedigaethol. Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn Weithiwr Cymdeithasol Cymwysedig a Chofrestredig gyda Gofal Cymdeithasol Cymru. Byddant yn dangos tystiolaeth o wybodaeth dda a chymhwysiad o ddyletswyddau cyfreithiol i lywio asesu ac ymyrryd, bydd ganddynt sgiliau cyfathrebu rhagorol, y gallu i weithio fel rhan o dîm a phrofiad blaenorol o weithio gydag oedolion diamddiffyn. Mae'r tîm wedi'u lleoli yn Adeiladau'r Goron. Byddangen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a chofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru ar gyfer y swydd hon. I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â:
Debra Gonczarow - 01978 298196
Wesley Griffiths - 01978 298282
Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddatblygu ei weithlu dwyieithog ac mae'n croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr sy'n dangos eu gallu i weithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir yn y Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.