Ar hyn o bryd rydym yn recriwtio 1 x 31.5 awr Gweithiwr Gofal a Chymorth Lefel 2 i ymuno â Chartref Gofal Preswyl Min y Môr, Aberaeron yn barhaol. Nid yw profiad blaenorol o weithio mewn cartref gofal yn hanfodol gan y bydd hyfforddiant llawn yn cael ei darparu. Cyn belled â bod gennych garedigrwydd, amynedd, parch a gwytnwch - gallwn ddysgu'r gweddill i chi!
Am y rôl Nid oes unrhyw ddau ddiwrnod yr un fath yn y rôl amrywiol a gwerth chweil hon. Fel canllaw cyffredinol, gall eich dyletswyddau dyddiol gynnwys:
- darparu gofal cyflawn i gleientiaid yn unol â'r drefn ddyddiol fel yr amlinellir yn y cynlluniau gofal
- darparu cymorth emosiynol a sicrwydd i gleientiaid, yn enwedig pan fydd angen iddynt addasu i newid/a/neu argyfwng teuluol
- rhoi meddyginiaeth ar bresgripsiwn, gan gynnwys cyffuriau rheoledig, yn unol â pholisi a gweithdrefn
- hebrwng cleientiaid allan o'r sefydliad, e.e. teithiau hamdden
- cwblhau cofnodion dyddiol
- cynnal gwasanaeth glanhau, golchi dillad ac ystafell fwyta
Ein cynnig i chi Mae cyfraniad ein gweithwyr i iechyd, diogelwch a llesiant preswylwyr ein cartrefi gofal yn amhrisiadwy. Rydym felly am sicrhau bod ein Gweithwyr Gofal a Chymorth yn gweld gweithio i Geredigion yn brofiad gwerth chweil.
Gyda hynny mewn golwg, rydym yn cynnig amrywiaeth o fuddion gweithwyr, gan gynnwys:
- hyd at 34 diwrnod o wyliau blynyddol
- mentrau iechyd a lles gan gynnwys cymorth am ddim o ran ffordd o fyw a chwnsela
- cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
- tâl mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth uwch
- cerdyn disgownt Vectis ar gyfer arbedion ar frandiau enwau mawr a chyda busnesau lleol cofrestredig
- cyfleoedd dysgu a datblygu i gefnogi dilyniant gyrfa
- cynlluniau aberthu cyflog gan gynnwys y cynllun Beicio i'r Gwaith
I gael rhagor o wybodaeth am ein buddion cyflogeion cliciwch
yma .
Mae hwn yn gyfle gwych i unigolyn gofalgar a thosturiol ymuno â thîm cyfeillgar ac ymroddedig a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol.
Cyflwyno cais Rydym wedi ei gwneud yn haws I chi wneud cais drwy symleiddio ein ffurflen gais.Mae cyflwyno cais nawr yn haws nag erioed.
Os bydd angen Cymorth arnoch I gwblhau eich cais,mae croeso I chi gysylltu a 01970 6333949 neu e-bostio
adnoddaudynol@ceredigion.gov.uk Mae'r rol hon yn cynnwys gweithio ar benwythnosau fel rhan o wythnos waith arferol neu rota. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus hawl I'r tal canlynol:
- Dydd Sadwrn - Amser a chwarter
- Dydd Sul - Amser a hanner
Disgrifiad Swydd a Manyleb PersonAm fwy o wybodaeth, cysylltwch â Chloe Williams-Lawless ar
Chloe.Williams-Lawless@ceredigion.gov.ukNoder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch.Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Yr hyn a gynigwn Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Lle byddwch yn gweithio Porth Gofal - Gwasanaethau Ymyrraeth wedi'u Targedu
Rydym wrth wraidd darpariaeth gofal cymdeithasol gydol oes Ceredigion ac ein nod yw sicrhau bod pob unigolyn yn derbyn yr ymyrraeth orau i ddiwallu ei anghenion neu, lle bo angen, eu tywys at gymorth cynnar neu wasanaethau arbenigol.Ein prif swyddogaethau yw:
- Tîm Derbyn a Brysbennu Porth Ceredigion
- Gwasanaethau Ymyrraeth wedi'i Thargedu
- Gwasanaethau Maethu
- Gwasanaethau Preswyl a Gofal Dydd
- Gwasanaethau Tai
- Storfeydd Cyfarpar Cymunedol Integredig
- Tîm Dyletswydd Argyfwng
Aberaeron Mae Aberaeron yn dref harbwr brydferth ac mae'n un o gyrchfannau gwyliau mwyaf poblogaidd Ceredigion gyda llefydd poblogaidd i aros a bwyta.
Darllen mwy