Oriau gwaith: 1 x 18 oriau yr wythnos & 2 x Contractau dim oriau
Math o gontract: 1 x Rhan Amser, Parhaol & 2 x Wrth Gefn / Achlysurol
Lleoliad: Cartref Seibiant Tŷ Gwilym
Tîm: Gwasanaethau Darparwyr
Mae'r swydd hon yn cynnig cyfle gwych i ddod yn rhan o'n tîm ni a darparu cymorth ar draws y sefydliad.
Rydyn ni'n talu cyflog deniadol o £13,201 - £14,071 (18 awr) / £13.69 awr (Wrth Gefn / Achlysurol) ac yn cynnig mynediad at gyfleoedd hyfforddi a datblygu. Oes gennych chi angerdd am rymuso pobl eraill i fyw'n annibynnol a gwneud eu penderfyniadau eu hunain? Ydych chi’n gallu ysbrydoli unigolion a’u cynorthwyo nhw i roi cynnig ar brofiadau newydd a chyflawni eu nodau personol?
Ar hyn o bryd, mae Gwasanaethau Seibiant Montclaire (Coed Duon) a Tŷ-Gwilym (Eneu'r-glyn, Caerffili) yn awyddus i recriwtio Gweithwyr Gofal Cymdeithasol i ymuno â'n tîm ymroddedig:
1 x swydd sifft nos 18 awr ar gael yn Nhŷ-Gwilym.
2 x swydd achlysurol ar gael ar draws y ddau wasanaeth.
Bydd yr oriau hyn yn cael eu gweithio yn ôl trefn rota Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch chi am yr oriau sydd ar gael, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio gan ddefnyddio'r manylion wedi'u darparu isod.
Os ydych chi'n frwdfrydig, yn dosturiol ac yn ymroddedig i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl, bydden ni wrth ein bodd yn clywed gennych chi.
Ar gyfer y rôl, gofynnwn i chi: - Willingness to achieve a Level 2 or 3 qualification in Health and Social Care within an agreed timescale.
- Profiad gyda phobl sydd angen cymorth gyda phob agwedd ar ofal personol, bywyd bob dydd a sgiliau cymdeithasol.
- Y gallu i weithio sifftiau ar sail rota, a gweithio'n hyblyg gan gynnwys penwythnosau, gwyliau banc a dyletswyddau cysgu i mewn.
-
Mae gennym ni fuddion rhagorol gan gynnwys Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol, patrymau gweithio ystwyth a chynlluniau disgownt i staff.
I weld y Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, dewiswch yr atodiad perthnasol o’r rhestr atodiadau
Ar ôl darllen y Swydd Ddisgrifiad a Manyleb Person, os hoffech gael trafodaeth anffurfiol am y rôl cysylltwch â Nathan James ar 07873 702393 neu ebost:
Jamesn2@caerphilly.gov.uk.
Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg. Ni fydd unrhyw gais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.
Mae'n ofyniad cyfreithiol arnom i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth o'ch hawl i weithio yn y DU. Gofynnir i ymgeiswyr llwyddiannus ddarparu dogfennau priodol megis tystysgrif geni, pasbort neu drwydded waith yn unol â Deddf Mewnfudo, Lloches a Chenedligrwydd 2006.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i wneud cais ar-lein, cysylltwch â webrecruitment@caerphilly.gov.uk am ragor o wybodaeth
Mae'r swydd hon yn cael ei heithrio o Ddeddf Ailsefydlu Troseddwyr (1974) a bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei gynnal ar bob ymgeisydd llwyddiannus. Bydd hyn yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae Rheolau Gofal Cymdeithasol Cymru (Cofrestru) 2023 yn nodi'r gofyniad i'r holl weithwyr gofal plant preswyl, gweithwyr gofal cartref, gweithwyr cartrefi gofal i oedolion a gweithwyr canolfannau preswyl i deuluoedd gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru o fewn chwe mis yn dilyn eich dyddiad dechrau yn y swydd.