Neidio i'r prif gynnwys

Gweithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy - Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol

Dyddiad cau 13/02/2025

Cyflogwr

Cyngor Sir Benfro / Pembrokeshire County Council

Lleoliad

  • Sir Benfro
    • Pob ardal

Manylion

Oriau contract
Rhan Amser
Maes gofal
Gofal cymdeithasol

Disgrifiad o'r swydd

Mae Cyngor Sir Penfro yn chwilio am weithiwr cymdeithasol iechyd meddwl ymroddedig a phrofiadol i ymuno â'n Tîm Iechyd Meddwl Oedolion a'n Tîm Gweithwyr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy. Mae Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol Bro Cerwyn yn ganolfan ar gyfer ein tîm deinamig, sydd wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl o ansawdd uchel i ddinasyddion Sir Benfro. Rydym yn chwilio am unigolyn sy'n angerddol am gael effaith gadarnhaol ar fywydau'r rheini sy'n profi heriau iechyd meddwl.

Rydym yn chwilio am unigolyn uchelgeisiol, brwdfrydig, a deinamig sy'n angerddol am weithio ym maes iechyd meddwl ac yn mabwysiadu dull sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar sgiliau cyfathrebu rhagorol a bydd yn gweithio'n effeithiol fel chwaraewr tîm ac ar ei liwt ei hun.

Sut i wneud cais

Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr

Gwneud cais ar-lein

Dewch o hyd i swydd mewn gofal plant

Os ydych chi'n ystyried gyrfa mewn gofal, edrychwch ar ein bwrdd swyddi i gael syniad o'r math o rolau sy'n fanteisiol.