Gwasanaethau Gwaith Cymdeithasol / Gwasanaethay Cymdeithasol
Rôl
Gweithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy
Disgrifiad o'r swydd
Gweithiwr Teuluoedd ac Eraill Arwyddocaol (Banc)
Mae Adferiad Recovery yn darparu ymateb hyblyg a chydlynol i’r amgylchiadau eithriadol mae pobl sydd â chyflyrau iechyd meddwl, defnydd sylweddau a materion eraill cysylltiedig sy’n cyd-ddigwydd yn eu hwynebu. Mae pobl sy’n agored i niwed sy’n wynebu heriau bywyd cymhleth angen cefnogaeth gyson a di-dor i sicrhau eu bod yn parhau i ymgysylltu gyda gwasanaethau iechyd a llesiant hanfodol – ac i’w hatal rhag mynd yn ddifreintiedig ac ynysig.
Cytundeb: Banc
Cyflog: £12.40 yr awr
Wedi'i leoli yn: Castell-nedd Port Talbot
Dyddiad Cyfweliad Petrus: Dydd Mercher, 16 Hydref 2024.
Pwrpas y Rôl:
Darparu cyngor, gwybodaeth ac ymyriadau seicogymdeithasol strwythuredig (ar sail un-i-un a grŵp) ar gyfer oedolion sy’n aelodau o’r teulu, gofalwyr a ffrindiau yr effeithir arnynt gan ddefnydd anwyliaid o sylweddau. Bydd deiliad y swydd yn derbyn cyfeiriadau, yn cynnal asesiadau, yn datblygu ac yn adolygu cynlluniau gofal ac yn cyfrannu at becyn gofal cyfannol. Y nod yw gwella perthnasoedd a chanlyniadau i aelodau o'r teulu, gofalwyr a ffrindiau sydd wedi'u heffeithio gan gamddefnyddio sylweddau, gan weithio'n agos gyda'r holl sefydliadau eraill sy'n gysylltiedig.
Rydym yn cadw'r hawl i gau'r swydd wag hon yn gynnar os byddwn yn derbyn digon o geisiadau ar gyfer y rôl. Felly, os oes gennych ddiddordeb, cyflwynwch eich cais cyn gynted â phosibl.
Os credwch fod gennych y sgiliau hyn, ond nad ydych 100% yn siŵr, gwnewch gais o hyd a gadewch i ni benderfynu. Gwyddom fod rhai grwpiau yn diystyru eu hunain o gyfleoedd diddorol gan gymryd y bydd eraill yn fwy llwyddiannus, ond peidiwch â bod y person hwnnw. Rydym am glywed gan y trawstoriad ehangaf o’r gymuned.
Mae Adferiad Recovery yn croesawu ceisiadau gan bawb sydd â’r hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig, ac yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn y gweithle. Mae’n rhaid i bob cyflogai ymddwyn yn gynhwysol i annog, hyrwyddo, ac i feithrin ein gwerthoedd (megis cadarnhau hawliau ac amrywiaeth diwylliannol).
Wrth weithio tuag at ddod yn sefydliad sy’n Cadarnhau Hawliau, rydym yn weithredol yn annog ceisiadau gan bobl ble mae Manyleb y Person yn galw am gymhwyster neu brofiad penodol, ond byddwn yn ystyried hepgor y gofynion hyn os bydd ymgeisydd na all eu cyflawni oherwydd anabledd, ond sydd yn gallu dangos y byddent yn gallu perfformio yn dda yn y swydd ac yn bodloni’r meini prawf mewn agweddau eraill.
AM FWY O WYBODAETH, MANYLEB Y PERSON LLAWN AC AM SUT I WNEUD CAIS, EWCH I’N GWEFAN OS GWELWCH YN DDA: http://adferiadrecovery.peoplehr.net/Pages/JobBoard/Opening.aspx?v=7b424bbd-7aba-4428-8e97-b267547d67a3
Os ydych chi'n cael trafferth cael mynediad i'r wybodaeth hon neu os hoffech chi ei chael mewn fformat gwahanol, cysylltwch â'n tîm recriwtio yn recruitment@adferiad.org neu 01492 863005
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr