Dan arweiniad arbenigwyr pwnc proffesiynol, byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel i drigolion Ceredigion. Byddwch yn cael eich lleoli mewn un o chwe maes gwasanaeth y Cyngor, lle byddwch yn ennill profiad ymarferol ar draws ystod o swyddogaethau allweddol.
Yr hyn rydym yn chwilio amdano: - Gradd 2:1 neu uwch, a gafwyd o fewn y tair blynedd diwethaf;
- Profiad gwaith (â thâl neu wirfoddol);
- Brwdfrydedd dros wasanaeth cyhoeddus a pharodrwydd i ddysgu a datblygu.
Meysydd lleoliad ar gael: Rheoli Adeiladu a Rheoli Datblygiad; Lleihau Carbon, Ynni a Rheoli Asedau; Peirianneg; Cyfreithiol; Diogelu'r Cyhoedd (Iechyd Amgylcheddol neu Safonau Masnach); Gwaith Ieuenctid. Ein cynnig i chi - Profiad gwaith cyflogedig 12 mis;
- Cymhwyster rheoli prosiectau cydnabyddedig (Prince 2);
- Cefnogaeth a mentora proffesiynol;
- 27 diwrnod o wyliau blynyddol, ynghyd â 8 diwrnod o wyliau cyhoeddus;
- Gweithio hybrid - yn amodol ar ofod gwaith a addas, cysylltiad band eang digonol ac anghenion y gwasanaeth, gallwch ddewis gweithio o gartref neu yn un o'n swyddfeydd;
- Amser hyblyg - yn amodol ar anghenion y gwasanaeth, gallwch weithio rhwng 7:30am a 7:00pm, gan ddefnyddio oriau credyd fel gwyliau ychwanegol;
- Y potensial am gontract dilynol, yn amodol ar berfformiad rhagorol a chyllid sydd ar gael, a all gynnwys cefnogaeth bellach i ennill cymhwyster proffesiynol arbenigol.
Os ydych chi'n barod i gychwyn ar yrfa ystyrlon a gwerth chweil, ymgeisiwch nawr a dechreuwch eich siwrne gyda Thîm Ceredigion!
Gwybodaeth ychwanegol Ceir wybodaeth fanwl am y cyfleoedd a'r profiad cyflogaeth a gynigiwn yn Nhîm Ceredigion yn y dogfennau canlynol:
Oes gennych ddiddordeb mewn dysgu mwy am y cyfleoedd hyn? Cofrestrwch i fynychu ein
sesiwn wybodaeth rithwir , a gynhelir
ddydd Llun, 9fed Mehefin, 11:30 - 12:30 .
Cliciwch yma i gofrestru . Fel arall, os oes gennych ymholiadau cysylltwch â
dysgu@ceredigion.gov.uk .
Y Broses Ddethol Bydd y broses ddethol yn cychwyn ddydd Llun 30 Mehefin a chynhelir cyfweliadau ddechrau mis Gorffennaf.
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad/ cau. Yr hyn a gynigwn Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu