MEWNOL YN UNIG: Uwch-weithiwr Gofal Preswyl Swydd-ddisgrifiad Mae'r swydd hon yn cael ei hysbysebu'n fewnol ar gyfer Sir Powys gweithwyr y Cyngor yn unig Yr Isafswm oedran Cyflogi yw 22 mlwydd oed
Bydd eich cyfrifoldebau'n cynnwys: 1. Cyflawni rôl arwain wrth ofalu am fywyd, gofal a lles dyddiol pob plentyn ac unigolyn ifanc sy'n byw yn y Cartref Gofal a sicrhau fod y sifft yn cael ei reoli'n briodol gan gymryd cyfrifoldeb mewn argyfwng. 2. Gweithio rota a fydd yn cynnwys gwaith llanw yn y dydd, nosweithiau ac ar benwythnosau a chysgu i mewn yn y cartref ar sail rota. Annog diwylliant o hyblygrwydd a gweithio o fewn tîm ymysg y gweithlu a bod yn barod i weithio mewn Cartrefi Gofal eraill - Cartrefi Preswyl i Blant os yn ofynnol. 3. Cynllunio, rheoli ac arwain sifftiau gan sicrhau fod plant a phobl ifanc yn cael eu cadw'n ddiogel ac wedi ymgysylltu trwy gydol y dydd. 4. Rhoi cyfarwyddyd a chefnogaeth i'r holl Swyddogion Gofal a gweithio mewn ffordd hyblyg i ddiwallu gofynion sy'n newid gan y gwasanaeth. 5. Mynd ati'n weithgar i arwain a hyrwyddo wrth gyflwyno safon uchel o ofal corfforol, glendid, diogelwch a lles ar gyfer yr holl bobl ifanc. Sicrhau darparu amgylchedd cynnes a derbyngar o fewn y cartref lle mae anghenion emosiynol, cymdeithasol, addysgol, diwylliannol ac ysbrydol y bobl ifanc unigol yn gallu cael eu diwallu. Bod yn fodelau rôl effeithiol wrth sicrhau fod proffesiynoldeb yn cael ei hyrwyddo ar bob adeg fel yr Uwch Swyddog Gofal. 6. Sicrhau fod y weithdrefn ar gyfer diogelu, monitro a rheoli meddyginiaeth yn cael ei dilyn ynghyd â gweithredu canllawiau i weinyddu meddyginiaeth fel sy'n briodol. Bydd yr Uwch Swyddog Gofal yn cefnogi'r tîm staff i weinyddu unrhyw feddyginiaeth ar bresgripsiwn neu feddyginiaeth heb fod ar bresgripsiwn. Arsylwi, asesu a monitro iechyd, datblygiad a lles emosiynol pobl ifanc, gan gychwyn camau gweithredu priodol lle bo hynny'n angenrheidiol. 7. Sicrhau cydymffurfiaeth â Gweithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan 2019 a'r holl ofynion rheoleiddio ar gyfer cartrefi gofal preswyl i blant ar bob adeg. Gwybod y diweddaraf am ddatblygiadau, arfer a deddfwriaeth newydd mewn gofal plant. Cymryd rhan yn weithgar mewn trefniadau datblygu a goruchwylio ei hunan. 8. Bod yn gyfrifol am oruchwylio aelodau dynodedig o staff a chofnodi hyn ar y Daflen Oruchwylio o fewn ffeil yr aelod staff. Rhoi cyfarwyddyd a chefnogaeth i'n newid o fewn y gwasanaeth. 9. Cynorthwyo wrth lunio asesiad o anghenion a chynlluniau ar gyfer pobl ifanc, a gweithio mewn partneriaeth gyda theuluoedd a gofalwyr y bobl ifanc wrth gyflawni'r nodau ac amcanion sydd o fewn cynlluniau'r bobl ifanc. 10.Trefnu, annog a rhannu mewn gweithgareddau hamdden sy'n diwallu anghenion a dymuniadau'r plant a phobl ifanc yn y cartref a sicrhau fod y bobl ifanc yn cael eu hannog i ddatblygu sgiliau bywyd, sgiliau cymdeithasol ac annibyniaeth sy'n briodol i oedran.
Mae gofyniad o fewn y swydd am uwch archwiliad DBS gan fod y swydd
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr