Gwasanaethau Gwaith Cymdeithasol / Gwasanaethay Cymdeithasol
Rôl
Gweithiwr Proffesiynol Iechyd Meddwl Cymeradwy
Disgrifiad o'r swydd
Nyrs Camddefnyddio Sylweddau (Banc)
Mae Adferiad Recovery yn darparu ymateb hyblyg a chydlynol i’r amgylchiadau eithriadol mae pobl sydd â chyflyrau iechyd meddwl, defnydd sylweddau a materion eraill cysylltiedig sy’n cyd-ddigwydd yn eu hwynebu. Mae pobl sy’n agored i niwed sy’n wynebu heriau bywyd cymhleth angen cefnogaeth gyson a di-dor i sicrhau eu bod yn parhau i ymgysylltu gyda gwasanaethau iechyd a llesiant hanfodol – ac i’w hatal rhag mynd yn ddifreintiedig ac ynysig.
Oriau: Banc
Cyflog: £20.81 yr awr + 12.07% Elfen Tâl Gwyliau = £23.82
Wedi'i leoli yn: Hafan Wen, Gate 4, Ysbyty Maelor Wrecsam
Yn atebol i: Rheolwr Gwasanaethau Preswyl – Hafan Wen
Pwrpas y Rôl:
Darparu gofal nyrsio sylfaenol gan wneud asesiad priodol o anghenion gofal cleifion, datblygu, gweithredu a gwerthuso rhaglenni gofal gyda’r tîm sifft, gan eu goruchwylio (yn achlysurol) yn absenoldeb y Nyrs Arweiniol.
Cyfrannu at welliant parhaus canllawiau a gweithdrefnau clinigol ar gyfer y Gyfarwyddiaeth Gwasanaethau Preswyl trwy gaffael gwybodaeth arfer gorau yn seiliedig ar y cysyniadau therapiwtig diweddaraf ym meysydd caethiwed a chamddefnyddio sylweddau.
Mae deiliad y swydd yn gyfrifol am ymgymryd â rôl nyrsio sylfaenol ac am gyfrannu at redeg sifft yn gyffredinol effeithlon ac effeithiol gan adrodd, fel eithriad, i'r Rheolwr Gwasanaethau Preswyl.
Rydym yn cadw'r hawl i gau'r swydd wag hon yn gynnar os byddwn yn derbyn digon o geisiadau ar gyfer y rôl. Felly, os oes gennych ddiddordeb, cyflwynwch eich cais cyn gynted â phosibl.
Os credwch fod gennych y sgiliau hyn, ond nad ydych 100% yn siŵr, gwnewch gais o hyd a gadewch i ni benderfynu. Gwyddom fod rhai grwpiau yn diystyru eu hunain o gyfleoedd diddorol gan gymryd y bydd eraill yn fwy llwyddiannus, ond peidiwch â bod y person hwnnw. Rydym am glywed gan y trawstoriad ehangaf o’r gymuned.
Mae Adferiad Recovery yn croesawu ceisiadau gan bawb sydd â’r hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig, ac yn gwerthfawrogi amrywiaeth yn y gweithle. Mae’n rhaid i bob cyflogai ymddwyn yn gynhwysol i annog, hyrwyddo, ac i feithrin ein gwerthoedd (megis cadarnhau hawliau ac amrywiaeth diwylliannol).
Wrth weithio tuag at ddod yn sefydliad sy’n Cadarnhau Hawliau, rydym yn weithredol yn annog ceisiadau gan bobl ble mae Manyleb y Person yn galw am gymhwyster neu brofiad penodol, ond byddwn yn ystyried hepgor y gofynion hyn os bydd ymgeisydd na all eu cyflawni oherwydd anabledd, ond sydd yn gallu dangos y byddent yn gallu perfformio yn dda yn y swydd ac yn bodloni’r meini prawf mewn agweddau eraill.
AM FWY O WYBODAETH, MANYLEB Y PERSON LLAWN AC AM SUT I WNEUD CAIS, EWCH I’N GWEFAN OS GWELWCH YN DDA: https://adferiadrecovery.peoplehr.net/Pages/JobBoard/Opening.aspx?v=beaa8e3d-33bb-4ce5-9a66-72913227c24d
Os ydych chi'n cael trafferth cael mynediad i'r wybodaeth hon neu os hoffech chi ei chael mewn fformat gwahanol, cysylltwch â'n tîm recriwtio yn recruitment@adferiad.org neu 01492 863005
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr