Conwy County Borough Council / Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Lleoliad
Conwy
Pob ardal
Manylion
Math o gontract
Parhaol
Maes gofal
Gofal plant
Gweithle
Cyfleusterau Crèche a Meithrinfeydd Dydd
Rôl
Manager
Disgrifiad o'r swydd
Dim ond gweithwyr mewnol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a ellir ymgeisio am y swydd hon .
Lleoliad gwaith: Coed Pella
Mae hwn yn gyfle gwych i lunio, cefnogi a datblygu cynnig cartrefi Gofal Preswyl Conwy i blant yng Nghonwy. Mae gan Gonwy gynllun 10 mlynedd i agor nifer o gartrefi gofal bychain i blant yn raddol, ac mae angen rhywun arnom sy'n deall cymhlethdodau dylunio a sefydlu cartrefi plant o fewn Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol Cymru 2016.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gweithio ochr yn ochr â'r rheolwr prosiect i ddatblygu manylebau ar gyfer cartrefi gofal ac i weithredu fel rheolwr prosiect y broses gofrestru. Bydd hyn yn golygu recriwtio staff a datblygu polisïau a gweithdrefnau ar gyfer pob lleoliad, a gweithio ochr yn ochr â'r Unigolyn Cyfrifol a'r Rheolwr Gwasanaeth Plant sy'n Derbyn Gofal, gan arwain pob gwasanaeth drwy'r broses gofrestru.
Bydd angen i ddeiliad y swydd ddeall sut mae trawma'n effeithio ar blant a sut i ddarparu amgylchedd therapiwtig lleddfol i'w helpu i ddod dros y trawma hwnnw.
Mae'r rôl hon yn cynnig opsiynau gweithio hyblyg ar gyfer cydbwysedd bywyd a gwaith. Gall hyn gynnwys addasu eich diwrnod gwaith a gweithio hybrid, hy cydbwysedd rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Catherine Mackenzie Rheolwr Gwasanaeth Plant sy'n Derbyn Gofal 01492 577778 Catherine.mackenzie@conwy.gov.uk
Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o'n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd.
Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a'ch annog i ddefnyddio'ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy'n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy'n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.
Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.
Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi'i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda 'H' ar y Manylion am yr Unigolyn).
Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â'r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.
This form is also available in English.
Sut i wneud cais
Gweld disgrifiad llawn y swydd a gwneud cais ar wefan y cyflogwyr