O ganlyniad i hysbysiad ymddeoliad diweddar gan Reolwr Carfan, mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn falch o gynnig swydd Rheolwr Carfan - Carfan ar Ddyletswydd ar gyfer Argyfyngau, gan weithio yn ardaloedd Awdurdodau Lleol Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful. Mae’r garfan wedi'i sefydlu yn Rhondda Cynon Taf, lle mae rheolwyr llinell wedi’u lleoli yn yr Adran Gwasanaethau i Blant.
Ar hyn o bryd, mae'r garfan yn cyflawni adolygiad o'i strwythur presennol ac yn datblygu system rota y tu allan i oriau gwaith arferol er mwyn bodloni'r galw cyfredol a'r galw yn y dyfodol. O ganlyniad, bydd y swydd yn cynnig cyfle cyffrous i weithio ar y cyd ag aelodau presennol y garfan a rheolwyr llinell er mwyn goruchwylio gweithrediad arfer a phrosesau gweithredol newydd.
Mae'r swydd wedi'i leoli yn adeilad Hwb Diogelu Amlasiantaeth Cwm Taf yng Ngorsaf Heddlu Pontypridd yn ystod y penwythnos, gwyliau'r banc, er, o ddydd i ddydd, mae staff y garfan yn gweithio'n bennaf o gartref yn ystod dyddiau'r wythnos. Fodd bynnag, mae'r gwasanaeth yn archwilio opsiynau adleoli ar hyn o bryd, a bydd dychwelyd i weithio'n fwy rheolaidd mewn swyddfa yn destun adolygiad.
Mae'r swydd heriol sy'n rhoi boddhad yma yn gofyn am unigolyn proffesiynol rhagweithiol ac arloesol sy'n gallu gweithio yn effeithiol gyda chydweithwyr i yrru newid yn ei flaen a gwella darpariaeth y gwasanaeth pan fo angen.
Bydd rhaid bod gyda chi gymhwyster Gofal Cymdeithasol proffesiynol a phrofiad helaeth o weithio yn y maes. Byddwch chi hefyd wedi cofrestru fel Gweithiwr Cymdeithasol gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.
Dyma brif ddyletswyddau’r swydd:
- Arwain, rheoli a chydgysylltu'r Garfan ar Ddyletswydd ar gyfer Argyfyngau sy'n cynnwys Gweithwyr Cymdeithasol llawn amser, rhan amser ac achlysurol yn ogystal ag ymarferwyr iechyd meddwl cymeradwy.
- Rheoli gwasanaeth brys cyffredinol y tu allan i oriau gwaith sy'n cynnwys materion Diogelu Plant, Iechyd Meddwl, Gofal yn y Gymuned a Chyfiawnder Ieuenctid, ar ran yr Awdurdodau Lleol a grybwyllwyd uchod.
- Ymgynghori a rhoi cyngor ac arweiniad i aelodau'r garfan ar bob agwedd o'u gwaith trwy oruchwyliaeth unigol a chyfarfodydd carfan.
- Cynorthwyo i weithredu fframwaith cyflawniad newydd y Garfan ar Ddyletswydd ar gyfer Argyfyngau a monitro gwaith cyffredinol y garfan ochr yn ochr â Phennaeth y Gwasanaeth trwy goladu a dadansoddi data i lywio datblygiad y gwasanaeth.
- Cydweithio ag amrywiaeth o sefydliadau i ddarparu gwasanaethau diogelu i oedolion a phlant.
- Darparu adroddiadau ysgrifenedig ar gyfer Partneriaeth Grŵp Llywio'r Garfan ar Ddyletswydd ar gyfer Argyfyngau a chyfrannu at adolygiadau o brotocolau/prosesau a chytundebau lefel gwasanaeth.
- Bod yn bresennol mewn cyfarfodydd partneriaeth amlasiantaeth ledled Cwm Taf Morgannwg fel y bo’n briodol a chynnal cyswllt rheolaidd ac effeithiol ag asiantaethau partner a gwasanaethau yn ystod y dydd yn holl ardaloedd y tri awdurdod lleol.
- Bod o gymorth wrth recriwtio, sefydlu a hyfforddi pob aelod o staff.
- Goruchwylio'r rota staff yn fisol i sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei gyflenwi'n briodol bob amser.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y disgrifiad swydd a manyleb y person.
Rhaid cael Gwiriad Manwl y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd - Oedolion a Phlant.
Am ragor o wybodaeth, ffoniwch Lyndon Lewis ar (01443) 827300 neu (01685) 724960.
Protecting children and vulnerable adults is a core responsibility of all staff appointed to the Council.
In addition to this safeguarding responsibility, the successful applicant for this role will also be subject to an enhanced disclosure and barring service check.The Council values diversity in its workforce. We are committed to ensuring that no unlawful discrimination occurs in the recruitment and selection process on the grounds of age, sex, race, disability, sexual orientation, transgender, including those with non-binary identities, religion or belief or pregnancy and maternity. We offer a number of staff networks for employees including the Allies Network, a Disability and Carers Network and Perthyn our LGBTQ+ Network.
An application submitted for this post in Welsh will not be treated less favourably than an application made in English.As part of the Council’s longer term objectives in relation to the Welsh language and its Workforce Planning Strategy, it is committed to a guaranteed interview scheme for Welsh-speakers of Level 3 and above. If you meet the essential criteria as identified in the person specification for the job and are a Welsh-speaker of Level 3 and above, you will be invited to interview if you choose to participate in the scheme.In view of the large number of Application Forms which are currently being submitted individual applications are not acknowledged. Consequently if you do not hear from us within four weeks of the closing date, please assume that your application is unsuccessful on this occasion. In which case you are thanked for the interest you have shown in applying for a position within the Council.
In support of the Council’s voluntary pledge to support the Armed Forces, the recruiter must always be prepared to ensure that applicants who have identified themselves as members of the Armed Forces including Service Leavers, Veterans or Reservists and who meet the essential criteria of the person specification, are offered an interview.