Ynglŷn â'r swydd wag Cyfeirnod y Swydd Wag: 645
Sefydliad: Cyngor Sir Caerfyrddin
Adran: Tîm Gofal Plant Caerfyrddin
Nifer y swyddi gwag: 1
Math o gontract: Parhaol Amser Llawn
Lleoliad: Caerfyrddin
Gradd: Gradd K
Cyflog: £44,428 - £48,474
Os yw'n rhan-amser a/neu yn ystod y tymor, bydd y cyflog llawn amser a ddyfynnir (yn seiliedig ar 37 awr) ar sail pro rata yn unol â hynny
Cyfradd yr awr: £23.03 - £25.12
Oriau Contract: 37
Dewch i ymuno â'n tîm Rydym yn cynnig cyfle am secondiad i weithiwr brwd a phrofiadol i gynorthwyo un o'n timau gofal plant allweddol i ddarparu gwasanaeth o safon i blant sy'n derbyn gofal ac i blant sydd mewn angen tymor hir. Bydd disgwyl i Reolwr Cynorthwyol y Tîm ymdrin â llwyth gwaith bach o achosion cymhleth a goruchwylio nifer cyfyngedig o weithwyr cymdeithasol yn y Tîm.
Gallwn gynnig proses sefydlu gynhwysfawr, goruchwyliaeth broffesiynol reolaidd, gweithio hybrid a gweithio hyblyg, ynghyd â rhaglen datblygu proffesiynol gefnogol. (Gweithiwr cymdeithasol plant (llyw.cymru)) -
Gweithiwr cymdeithasol plant (llyw.cymru)
Rydym yn cynnig pecyn buddion rhagorol gan gynnwys:
- Cofrestru awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
- Hawl gwyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol.
- Mynediad at gymorth iechyd a lles staff
- Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
- Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e. cynllun beicio i'r gwaith
- Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd
- Hyfforddiant a chefnogaeth helaeth
- Parcio am ddim yn y prif swyddfeydd gwaith cymdeithasol plant yn Llanelli, Caerfyrddin a Rhydaman.
Cliciwch ar y ddolen - Buddiannau gweithwyr (llyw.cymru) i gael rhagor o wybodaeth am yr ystod o fudd-daliadau a threfniadau gweithio rydym yn eu cynnig.
Mae cymhwyster gwaith cymdeithasol yn ofynnol ar gyfer y swydd hon.
Am sgwrs anffurfiol cysylltwch â Karla Gorlach, KMGorlach@carmarthenshire.gov.uk
Disgrifiad Swydd: CCCT ATM 010213 JP.pdf - 198KB ~~EFORM_FILE_NEW_WINDOW~~
Lefel DBS: Bydd gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gan Wirio'r Rhestr Wahardd yn ofynnol ar gyfer y swydd hon. Mae'n drosedd gwneud cais am y swydd os yw'r ymgeisydd wedi'i wahardd rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau a reoleiddir sy'n berthnasol i blant neu oedolion sydd mewn perygl.
Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad: Lefel 2 - Bydd angen ichi fod â lefel sylfaenol o Gymraeg llafar. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.
Dyddiad Cau: 30/09/2024, 23:55
Y Buddion Rydym yn cynnig pecyn buddion ardderchog, gan gynnwys:
- Cyflog cystadleuol
- Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
- Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
- Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff
- Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
- Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith
- Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd
Gwybodaeth Ychwanegol Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol.
Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli. Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work .
Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.
Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio' i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.
Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.